Fe fydd tîm pêl-droed Cymru’n herio Gweriniaeth Iwerddon, y Ffindir a Bwlgaria yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn 2020-21.

Cawson nhw eu tynnu o’r het a’u rhoi yng Ngrŵp B.

Bydd y gemau cyntaf yn cael eu cynnal ym mis Medi, a’r rowndiau terfynol haf nesaf.

Bydd wynebu Gweriniaeth Iwerddon yn hwb i’r tîm ar ôl iddyn nhw eu trechu nhw ddwywaith yn yr un gystadleuaeth yn 2018-19.