Caerdydd 2–2 Brentford
Gêm gyfartal a gafwyd yn Stadiwm Dinas Caerdydd brynhawn Sadwrn wrth i’r Adar Gleision groesawu Brentfod yn y Bencampwriaeth.
Daeth y goliau i gyd yn yr hanner cyntaf wrth iddi orffen yn gyfartal, dwy gôl yr un.
Pum munud yn unig a oedd ar y cloc pan yr aeth yr ymwelwyr ar y blaen, Luka Racic yn rhwydo yn y cwrt cosbi.
Dyblwyd mantais Brentford wedi ugain munud gyda chic rydd hyfryd Bryan Mbeumo yn dilyn trosedd Junior Hoilett ar Emiliano Marcondes ar ochr y cwrt cosbi.
Ni wnaeth Caerdydd roi’r ffidl yn y to serch hynny ac roeddynt yn ôl yn gêm ddeuddeg munud cyn yr egwyl, Hoilett yn rhwydo yn y canol wedi gwaith creu da Callum Paterson ac Albert Adomah ar yr asgell.
Ac roedd yr Adar Gleision yn gyfartal erbyn hanner amser diolch i gôl Joe Ralls, tafliad hir Will Vaukes yn cael ei benio ymlaen gan Paterson a Ralls yn rhywdo wrth y postyn pellaf.
Roedd cyfleoedd yn y ddau ben yn yr ail hanner gyda Joe Bennett yn methu un o’r goreuon i Gaerdydd.
Ond nid oedd mwy o goliau i fod wrth i’r ddau dîm orfod rhannu’r pwyntiau. Mae’r canlyniad yn gadael tîm Neil Harris yn yr unfed safle ar ddeg yn y tabl, bum pwynt o’r safleoedd ail gyfle.
.
Caerdydd
Tîm: Smithies, Sanderson, Morrison, Nelson, Bennett, Bacuna, Vaulks, Ralls (Ward 80’), Adomah, Paterson, Hoilett
Goliau: Hoilett 34’, Ralls 45+1’
Cardiau Melyn: Adomah 23’, Bacuna 52’, Hoilett 75’, Vaulks 81’
.
Brentford
Tîm: Raya, Dalsgaard, Racic, Pinnock, Henry, Marcondes (Baptiste 84’ (Zamburek 90+3’)), Norgaard, Dasilva, Mbeumo, Watkins, Benrahma
Goliau: Racic 5’, Mbeumo 21’
Cerdyn Melyn: Baptiste 85’
.
Torf: 22,393