Blackburn 2–2 Abertawe                                                                 

Ildiodd Abertawe gôl hwyr wrth iddynt orfod bodloni ar bwynt yn unig o’u taith i Ewood Park i herio Blackburn yn y Bencampwriaeth brynhawn Sadwrn.

Roedd yr Elyrch ar y blaen wedi naw deg munud ond cipiodd y tîm cartref bwynt gyda gôl yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.

Rhoddodd Sam Gallagher Blackburn ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf, yn troi croesiad Ryan Nyambe heibio i Freddie Woodman yn y gôl.

Ond roedd yr Elyrch yn gyfartal ym munud olaf yr hanner diolch i Rhian Brewster, y blaenwr ifanc yn gorffen yn dda gydag ergyd isel o ochr y cwrt cosbi.

Ac ar ôl unioni pethau yn hwyr yn yr hanner cyntaf, roedd yr ymwelwyr o Gymru ar y blaen ym munudau cyntaf yr ail, Andre Ayew’n sgorio o’r smotyn wedi trosedd Tosin Adarbioyo ar Jordan Garrick yn y cwrt cosbi.

Cafodd Blackburn gyfle euraidd i daro nôl gyda chic o’r smotyn eu hunain yn dilyn trosedd Joe Rodon ar Ben Brereton. Y cyn Alarch, Danny Graham, a gymerodd y gic ond cafodd ei harbed gan Woodman.

Roedd hi’n ymddangos fod yr Elyrch yn mynd i ddal eu gafael wedi hynny ond fe gipiodd Blackburn bwynt pan wyrodd ergyd Bradley Johnson i gefn y rhwyd yn y pumed munud o amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm!

Mae’r canlyniad yn gadael tîm Steve Cooper yn nawfed yn nhabl y Bencampwriaeth, bedwar pwynt o safleoedd y gemau ail gyfle.

.

Blackburn

Tîm: Walton, Nyambe, Bennett, Adarbioyo, Bell, Travis (Johnson 72’), Downing, Gallagher, Samuel (Brereton 56’), Rothwell (Graham 56’), Armstrong

Goliau: Gallagher 25’, Johnson 90+5’

Cardiau Melyn: Travis 46’, Johnson 79’, Bennett 90+2’

.

Abertawe

Tîm: Woodman, Naughton, Cabango, Rodon, Bidwell, Fulton, Grimes, Ayew, Gallagher (Wilmot 90’), Garrick (Roberts 70’), Brewster

Goliau: Brewster 45’, Ayew [c.o.s.] 48’

Cardiau Melyn: Garrick 9’, Brewster 45’, Fulton 65’, Johnson 72’, Naughton 82’

.

Torf: 13,099