Chesterfield 3–2 Wrecsam                                                             

Colli fu hanes Wrecsam wrth iddynt ymweld â Stadiwm Proact i herio Chesterfield yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr brynhawn Sadwrn.

Aeth y Dreigiau ar y blaen ddwy waith yn y gêm ond yn ôl y daeth y tîm cartref ar y ddau achlysur gan ei hennill hi gyda gôl hwyr Curtis Weston.

Aeth Wrecsam ar y blaen wedi ugain munud pan drodd Will Evans y bêl i’w rwyd ei hun o gic rydd Jay Harris.

Pum munud yn unig a arhosodd hi felly cyn i Tom Denton unioni pethau ac felly yr arhosodd gi tan hanner amser.

Rhoddodd Jordan Pontcelli yr ymwelwyr yn ôl ar y blaen hanner ffordd trwy’r ail hanner cyn i Liam Mandeville unioni’r sgôr unwaith eto.

Yna, wedi pedwar munud o amser a ychwanegwyd am anafiadau, rhwydodd Weston i gipio’r pwyntiau i gyd i’r tîm cartref.

Mae’r canlyniad yn gadael Wrecsam yn beryglus o agos i’r safleoedd disgyn unwaith eto, dau bwynt sydd bellach yn eu gwahanu hwy a Chesterfield yn y pedwar isaf.

.

Chesterfield

Tîm: Jalal, Cropper, Yarney, Smith, Hollis, Evans, Buchanan, Weston, Tyson (Boden 82’), Fondom-Talom, Denton (Mandeville 60’)

Goliau: Denton 25’, Mandeville 72, Weston 90+4’

Cardiau Melyn: Evans 79’, Buchanan 90+2’

.

Wrecsam

Tîm: Lainton, Thompson, Kennedy, Lawlor, Pearson (Rutherford 74’), Garratt, Harris, Summerfield, Young, Ponticelli, Hooper

Goliau: Evans [g.e.h.] 21’, Ponticelli 68’

Cardiau Melyn: A Lawlor 43’, Hooper 79’

.

Torf: 3,728