Mae Neil Harris, rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, yn dweud ei fod e wedi siomi nad oedd ei dîm wedi curo Birmingham oddi cartref ddoe (dydd Sadwrn, Ionawr 18).

Aeth y tîm cartref ar y blaen yn gynnar yn y gêm yn St. Andrew’s trwy Jude Bellingham o chwarae gosod, ond tarodd yr Adar Gleision yn ôl ar ôl 62 munud wrth i Lee Tomlin unioni’r sgôr gyda’i ben.

“Roedden ni’n siomedig nad oedden ni wedi gallu ei hennill hi,” meddai Neil Harris.

“Roedden ni’n wael yn yr hanner cyntaf, ond fe wnaeth Alex Smithies sawl arbediad da iawn i’n cadw ni yn y gêm fel ein bod ni wedi mynd i mewn ar ei hôl hi o 1-0 ar ddiwedd yr hanner cyntaf.

“Fe wnes i ddweud wrth y tîm hanner amser fod y gôl wedi dod o chwarae gosod a’n marcio gwael ni er nad oedden ni wedi chwarae cystal ag yr oedden ni eisiau.”

Perfformiadau oddi cartref

Mae Caerdydd wedi ildio 31 gôl oddi cartref y tymor hwn.

Yn ôl Neil Harris, mae’n anodd ennill gemau yn y Bencampwriaeth ar ôl ildio’r gôl gyntaf.

“Mae cadw llechen lân yn hanfodol.

“Mae’n gwneud i chi gredu y gallwch chi fynd yn eich blaenau i gipio’r gôl fuddugol.

“Rydyn ni eisiau dechrau gemau’n well a gwella’n rheolaeth ni ar y gêm.”