Mae Steve Cooper yn dweud bod perfformiad tîm pêl-droed Abertawe yn erbyn Wigan brynhawn ddoe (dydd Sadwrn, Ionawr 18) wedi ei blesio.
Mae’r Elyrch wedi dychwelyd i safleoedd y gemau ail gyfle yn dilyn y fuddugoliaeth o 2-1 yn Stadiwm Liberty, ar ôl bod ar ei hôl hi’n gynnar yn y gêm.
Sgoriodd Nathan Byrne yn erbyn llif y chwarae ar ôl 15 munud ond sgoriodd Rhian Brewster ei gôl gyntaf i’r Elyrch ers symud ar fenthyg o Lerpwl, ac fe gafodd ei gynorthwyo gan Conor Gallagher, un arall o wynebau newydd y tîm.
Daeth y gôl fuddugol 23 munud cyn diwedd y gêm wrth i Andre Ayew rwydo am y deuddegfed tro y tymor hwn.
Mae’r Elyrch yn bumed yn y tabl erbyn hyn.
“Dw i’n bles â’r perfformiad,” meddai Steve Cooper.
“Fe ddechreuon ni’n dda, aethon ni ar y droed flaen ac roedden ni’n edrych fel y tîm rydyn ni eisiau bod.
“Roedd ildio’n destun siom, dydy hi byth yn dda ildio ond a bod yn deg, wnaeth y bois ddim gadael i hynny effeithio arnyn nhw ac fe wnaethon ni sgorio’n fuan wedyn i gael yn ôl i mewn i’r gêm.”
Codi stêm yn yr ail hanner
Roedd perfformiad yr Elyrch yn well o lawer yn yr ail hanner, yn ôl y rheolwr.
“Roedd yr egwyl yn bwysig.
“Fe wnaethon ni drosglwyddo sawl neges i’r chwaraewyr.
“Doedden ni ddim yn teimlo ein bod ni wedi cyrraedd y lefel roedden ni eisiau ei chyrraedd.
“Doedden ni ddim yn ddrwg ond roedden ni eisiau bod yn well, ac roedden ni’n dda yn yr ail hanner.
“Roedden ni’n edrych yn fygythiol, fe wnaethon ni symud y bêl ac roedden ni ar y droed flaen.
“Fe wnaethon ni eu gwasgu nhw’n well nag y gwnaethon ni yn yr hanner cyntaf ac yn y pen draw, fe wnaethon ni sgorio gôl dda iawn.”
Canmol Bersant Celina
Roedd dyfalu y gallai dod â Conor Gallagher i mewn ar fenthyg o Chelsea adael marc cwestiwn ynghylch lle Bersant Celina yn y tîm, ond mae wedi cael ei ganmol gan Steve Cooper.
“Roedd Bersant yn fygythiad gwirioneddol drwy gydol y gêm, roedden ni eisiau iddo fe fod yn fwy positif ac fe wnaeth hynny sicrhau’r fantais i ni.
“Roedd e un i un ac roedd Andre [Ayew] yn y lle cywir i sgorio.
“Fe wnaethon nhw newid pethau, wrth gwrs, ond roedden ni’n hapus gyda’r ffordd y daeth y gêm i ben.
“Doedd gan [y golwr] Freddie [Woodman] yr un arbediad i’w wneud, sy’n adrodd cyfrolau am ba mor dda oedd ein hamddiffyn yn hwyr yn y gêm.
“Felly mae llawer o bethau positif ond digon o le i wella hefyd.”