Ennill dyrchafiad yn ôl i Uwch Gynghrair Lloegr yw nod yr ymosodwr Rhian Brewster, fydd yn treulio ail hanner y tymor ar fenthyg gyda thîm pêl-droed Abertawe.
Daw sylwadau’r chwaraewr 19 oed wrth iddo gyfarfod â’r wasg ar drothwy’r gêm yn erbyn Wigan yn Stadiwm Liberty heddiw (dydd Sadwrn, Ionawr 18).
Mae Abertawe’n seithfed ar 42 o bwyntiau, yr un nifer â Sheffield Wednesday yn y chweched safle, tra bod Wigan yn 23ain, un safle uwchlaw’r gwaelod.
“Do’n i ddim yn chwarae ryw lawer yn Lerpwl,” meddai’r chwaraewr sydd wedi chwarae yn y gêm ddarbi ers symud i’r Elyrch, a hynny wythnos yn unig ar ôl gêm ddarbi Glannau Mersi yng Nghwpan FA Lloegr.
“Dim ond gemau cwpan ro’n i’n chwarae ynddyn nhw, ro’n i eisiau chwarae yn y gynghrair ac fe wnes i ofyn am gael mynd ar fenthyg.
“Fe wnaeth y rheolwr [Jurgen Klopp] gytuno ac roedd e’n meddwl mai dyna’r peth gorau i fi ar hyn o bryd.
“Roedd nifer o dimau eisiau fy arwyddo i pan wnes i sôn ’mod i eisiau mynd ar fenthyg ond ro’n i’n meddwl mai Abertawe oedd y dewis cywir i fi.
“Roedd yna gysylltiad â Coops [Steve Cooper] ac yn y blaen, ond fe wnes i edrych ar y tîm hefyd.
“Maen nhw’n chwarae pêl-droed dda fel Lerpwl, sy’n helpu.
“Maen nhw’n bwydo’r bêl ac yn chwilio amdani yn y bylchau.
“Mae eu safle nhw yn y tabl wedi helpu hefyd, a siarad â phobol.
“Fe wnes i siarad â phobol am y clybiau oedd wedi dangos diddordeb, a’r teimlad ges i oedd mai Abertawe fyddai’r un gorau i fi a dw i eisiau profi hynny.”
Ennill dyrchafiad
Mae nod Rhian Brewster yn syml.
“Dw i eisiau chwarae er mwyn ennill rhywbeth,” meddai.
“Gydag Abertawe, y nod yw ennill dyrchafiad a dw i’n mynd i wneud popeth alla i er mwyn helpu’r tîm i gyflawni hynny.
“Wrth gwrs fy mod i eisiau sgorio goliau hefyd, ond dw i wedi dod i Abertawe i helpu’r tîm i ennill dyrchafiad.
“Os yw hynny’n golygu ’mod i’n sgorio 15 gôl, gwych a gobeithio y gwna i hynny.
“Ond os yw’n golygu sgorio chwe gôl ac ennill dyrchafiad, yna mae hynny’n wych hefyd.
“Dw i wedi dod i helpu’r tîm i ennill dyrchafiad, ac fe wna i beth bynnag sydd ei angen – gweithio’n galed, sgorio goliau neu ei rhoi hi ar blât i rywun arall.”
Triawd newydd
Mae wedi symud o Lerpwl at Steve Cooper, ei gyn-reolwr yn nhîm dan 17 Lloegr a gododd Gwpan y Byd yn 2017, ac mae dau aelod arall o’r tîm hwnnw, Marc Guehi a Conor Gallagher yn ymuno â fe o Chelsea.
Ac mae ganddo fe ffrind arall yn y garfan, Yan Dhanda, un arall o griw ifanc Lerpwl.
“Mae’n helpu gyda Marc a Conor yn dod i mewn, ac ro’n i’n nabod Yan o’r blaen,” meddai.
“Mae nabod pobol yn helpu wrth ymgartrefu a chwarae ac a bod yn deg, fe wnaethon nhw fy nilyn i yma, fe ddaethon nhw ar fy ôl i!
“Mae’n braf cael wynebau cyfarwydd ar hyd y lle i’ch helpu chi.
“Ry’n ni’n nabod ein gilydd hefyd gan ein bod ni wedi chwarae gyda’n gilydd yn y gorffennol.
Mae Rhian Brewster yn barod i ganmol ei gyd-chwaraewyr, ac mae perfformiadau Conor Gallagher i Charlton yn hanner cynta’r tymor yn siarad drostyn nhw eu hunain.
“Mae Conor wedi chwarae hanner tymor ac wedi profi ei hun,” meddai.
“Dw i’n nabod Marc er pan oedden ni’n chwech oed, dw i’n gwybod y gall e ymdopi â’r ochr gorfforol a thechnegol, 100%.”
Esbonio apêl y triawd
Ar drothwy’r gêm yn erbyn Wigan, mae’r cadeirydd Trevor Birch wedi egluro pwysigrwydd perthynas Steve Cooper â’r triawd wrth eu denu nhw i’r clwb.
“Dw i wrth fy modd fod Rhian Brewster, Marc Guehi a Conor Gallagher wedi cyrraedd ar fenthyg o Lerpwl a Chelsea.
“Maen nhw’n dri chwaraewr ifanc o safon oedd yn awyddus i ymuno â ni ar ôl magu perthynas waith wych â Steve Cooper yn nhîm dan 17 Lloegr.
“Roedd eu clybiau yn yr Uwch Gynghrair yn cytuno ac yn teimlo mai Abertawe oedd y clwb cywir iddyn nhw er bod tipyn o ddiddordeb o lefydd eraill, felly ry’n ni’n ddiolchgar dros ben i Lerpwl a Chelsea am eu hyder.”