Bangor 2 – 1 Castell Nedd

Gadawodd Bangor hi’n eithriadol o hwyr er mwyn dwyn buddugoliaeth oddi ar Gastell Nedd ar Ffordd Farrar yng ngêm fyw Sgorio brynhawn Sadwrn.

Roedd sïon lu am broblemau ariannol yr ymwelwyr cyn y gic gyntaf ond Castell Nedd serch hynny oedd tîm cryfaf yr hanner cyntaf o bell ffordd. Yna, daeth Bangor yn ôl i’r gêm yn raddol yn ystod yr ail hanner cyn unioni’r sgôr wedi 85 munud a dwyn y gêm o’r tân wedi chwe munud o amser anafiadau.


Dechrau Da Castell Nedd

Daeth cyfle cyntaf yr Eryrod wedi llai na munud o chwarae ond ergydiodd Paul Fowler heibio’r postyn. Llwyddodd Kerry Morgan i daro’r targed ddeg munud yn ddiweddarach gan orfodi arbediad da gan Lee Idzi yn y gôl i Fangor yn isel i’w chwith.

Roedd Idzi ar ei hyd ar lawr ychydig funudau wedyn yn dilyn gwrthdrawiad damweiniol â Luke Bowen ond parhau i chwarae a wnaeth Castell Nedd er mawr rwystredigaeth i chwaraewyr a chefnogwyr Bangor, ond ddaeth dim byd o’r cyfle.

Bu rhaid i Fangor aros 17 munud cyn eu hanner cyfle cyntaf hwy, ond gwyrodd ergyd Michael Johnston o bellter yn erbyn Kai Edwards a dros y trawst. Cafwyd ergyd well gan Neil Thomas funud yn ddiweddarach a bu rhaid i olwr ifanc Castell Nedd, Kerry Nicholas wneud arbediad da.

Gôl i’r Ymwelwyr

Ond daeth y gôl i Gastell Nedd wedi 27 munud. Enillodd Fowler y bêl â’i ben ar y llinell hanner gan ei hanelu hi dros amddiffyn Bangor, roedd Jamie Brewerton yn rhy araf ac enillodd Bowen y ras at y bêl cyn ei phasio’n hyderus trwy goesau Idzi ac i gefn y rhwyd.

Rhoddodd y gôl hyder i’r ymwelwyr ac roeddynt yn hynod anlwcus i beidio ag ychwanegu ail cyn yr egwyl. Daeth croesiad gwych Bowen o hyd i Craig Hughes yn y canol wedi hanner awr ond peniodd heibio’r postyn pan ddylai fod wedi gwneud yn well, cyn i Bowen ei hun orfodi arbediad da gan Idzi.

Yna daeth y cyfle arall i Bowen, roedd yn gwbl rydd diolch i smonach amddiffynnol ond cododd y bêl yn rhy uchel dros Idzi a thros y trawst. Yn fuan wedyn achosodd tafliad hir drafferthion i amddiffyn Bangor a bu bron i Peter Hoy roi’r bêl yn ei rwyd ei hun.

Er gwaethaf holl oruchafiaeth Castell nedd 1-0 oedd hi o hyd a chafodd Kyle Wilson gyfle da i Fangor gyda deg munud o’r hanner yn weddill ond gwnaeth Edwards yr amddiffynnwr yn dda i atal ei ergyd.

Castell Nedd orffennodd yr hanner gryfaf, chwarae llac yng nghanol y cae gan Fangor yn rhoi cyfle i Chris Jones ond ei ergyd yn taro’r postyn wedi i Idzi gael blaenau’i fysedd arni.

Yr Ail Hanner

Yr Eryrod ddechreuodd yr ail hanner gryfaf hefyd, peniad yr amddiffynnwr, Mathew Rees yn cael ei arbed yn dda gan Idzi. Ond roedd Bangor yn dechrau dod i mewn i’r gêm wedi i Nev Powell newid system Bangor gan ddod a dau asgellwr i’r cae yn Michael Walch ac Eddie Jebb.

Ac roedd Jebb yn amlwg yn syth ond methodd gyfle da wedi 54 munud ar ôl i beniad Les Davies ei roi yn gwbl rydd o flaen gôl. Roedd Wilson yn gwbl rydd ddau funud yn ddiweddarach hefyd diolch i bêl hir Brewerton o’r cefn ond cododd yr ymosodwr ei ergyd ym mhell dros y trawst.

Tarodd Jebb chwip o foli wedi awr o chwarae, roedd y dechneg yn wych ond roedd hi’n syth at Nicholas. Tawelodd pethau i raddau helaeth wedi hynny cyn cyffro’r deg munud olaf. 

Diweddglo Dramatig

Pum munud oedd ar ôl pan anelodd Walsh groesiad hir i gyfeiriad y postyn pellaf ble roedd Hoy yn loetran ac unionodd yr amddiffynnwr y sgôr gyda pheniad cywir. Roedd hi’n ymddangos i Hoy sathru ar Nicholas y gôl-geidwad yn y weithred o sgorio, roedd yn ymddangos yn fwriadol ac os felly yn drosedd gywilyddus gan chwaraewr Bangor. Ond welodd y dyfarnwr ddim mohoni ac arhosodd Hoy ar y cae a bu rhaid i’r golwr ifanc gael ei eilyddio gan Chris Doran ar gyfer y munudau olaf.

Wnaeth Bangor ddim bygwth y golwr newydd hyd nes y chweched munud o amser anafiadau. Roedd ergyd Walsh yn mynd ym mhell heibio’r postyn ond roedd Alan Bull wrth law i roi ei droed i’r bêl a newid ei chyfeiriad heibio i Doran ac i gefn y rhwyd i gipio’r tri phwynt i Fangor mewn diweddglo dramatig.

Roedd Bangor yn haeddu’r fuddugoliaeth wedi perfformiad da gan yn yr ail hanner ac roedd llawer o’r diolch am hynny yn ddyledus i newidiadau tactegol Nev Powell, “Fe newidiodd yr eilyddion y gêm, fe newidion ni’r siâp dipyn, dod ag asgellwyr ar y cae a dyna wnaeth y gwahaniaeth.”

Nid yw’r canlyniad yn newid safleoedd y ddau dîm yn y gynghrair gyda Bangor yn aros yn bedwerydd a Chastell Nedd yn drydydd, ond mae’r Dinasyddion wedi cau’r bwlch diolch i’r fuddugoliaeth hwyr a bellach dim ond gwahaniaeth goliau sydd yn gwahanu’r ddau dîm.

Gwilym Dwyfor Parry