Ddoe (dydd Llun, Tachwedd 11) fe gyhoeddodd clwb pêl-droed Caerdydd fod cyfnod Neil Warnock yn rheolwr wedi dod i ben.
Fe gafodd ei benodi ym mis Hydref 2016 pan oedd y clwb yn ail o’r gwylod yn nhabl y Bencampwriaeth, ac ers hynny mae wedi eu harwain i ddyrchyfiad i’r Uwch Gynghrair yn 2018. Roedd disgwyl iddo adael ddiwedd y tymor hwn (2019-2020).
Ond fe gwympodd Caerdydd yn ôl i’r Bencampwriaeth wedi un tymor yn yr Uwch Gynghrair ac maen nhw bellach yn y 14eg safle yn y Bencampwriaeth wedi un fuddugoliaeth yn y chwe gêm ddiwethaf.
“Wedi iddo ymuno â’r clwb yn 2016, roedd Neil wrth y llyw am 144 o gemau ac arweiniasom ni at ddyrchafiad ar ddiwedd tymor 2017/18 gwych,” meddai datganiad ar wefan y clwb.
“Nawr, fe fydd y bwrdd yn dechrau’r broses o chwilio am reolwr newydd.”
Dyddiau gorau
“Rwy’n gadael fy Adar Gleision ar ôl tair blynedd sydd wedi bod yn rhai o’r dyddiau gorau yn fy ngyrfa bêl-droed hir,” meddai Neil Warnock.”