Mae Daniel James yn dweud ei fod yn mwynhau’r sialens y mae Uwch Gynghrair Lloegr yn ei chynnig iddi.
Mae Daniel James wedi mwynhau dechrau da i’w yrfa yn Old Trafford, ac mae ei gyflymder wedi peri problemau i sawl amddiffynnwr y tymor hwn.
Dywed ei fod yn bwriadu parhau i gael y gorau o amddiffynwyr – hyd yn oed os ydi hynny yn golygu cael ei gicio.
Symud o’r Bencampwriaeth i’r Uwch Gynghrair
Symudodd Daniel James o Abertawe i Manchester United yn ystod yr haf am £15m ac ef oedd y chwaraewr cyntaf i reolwr Manchester United Ole Gunnar Solskjaer ei arwyddo.
Mae’r Cymro bellach yn aelod pwysig o garfan Ole Gunnar Solskjaer.
“Roedd ymuno â’r clwb hwn wastad yn mynd i fod yn anodd, ac yn wahanol iawn i chwarae yn y Bencampwriaeth,” meddai Daniel James.
“Dw i wedi ei chymryd hi un cam ar y tro, ceisio ymlacio ac atgoffa fy hun mod i yma am reswm. Ar ddechrau’r tymor, doeddwn i ddim yn meddwl y baswn i’n chwarae cymaint.
“Dw i’n dysgu mwy pob gêm, mae’r rheolwr wedi ymddiried ynddo i a dwi wir yn mwynhau’r profiad.”