Aberystwyth 0–5 Y Bala
Cafwyd perfformiad pum seren gan y Bala wrth iddynt drechu Aberystwyth oddi cartref ar Goedlan y Parc yn y Cymru Premier nos Wener.
Sgoriodd yr ymwelwyr bum gôl i gyd, dwy yr un i Venables a Robles ac un i Henry Jones.
Chwaraeodd y ddau dîm eu rhan mewn hanner awr cyntaf agored a chyffrous ond yr ymwelwyr o’r Bala a gafodd y gôl agoriadol, Henry Jones yn gorffen gwrthymosodiad yn slic wedi pas ddeheuig Chris Venables i’w lwybr.
Peniodd Marc Williams yn erbyn y trawst i Aberystwyth wedi hynny ond roedd y Bala wedi dyblu eu mantais cyn yr egwyl diolch i Louis Robles, y blaenwr yn gwyro peniad gwreiddiol Anthony Stephens o gic gornel i gefn y rhwyd gyda’i ben yntau.
Roedd y canlyniad yn ddiogel ugain munud o ddiwedd y naw deg yn dilyn gôl wych gan Venables. Curodd cyn chwaraewr Aber ddau amddiffynnwr cyn crymanu ergyd berffaith i’r gornel bellaf o gornel y cwrt cosbi.
Gorffennodd yr ymwelwyr y gêm mewn steil gyda dwy gôl arall. Hanner foli flasus gan Robles a oedd y gyntaf wedi cyd chwarae taclus rhwng Jones a Kieran Smith. Venables a gafodd y llall, yn sgorio â’i ben wedi i Connor Roberts wneud arbediad da i wyro cynnig gwreiddiol Robles yn erbyn y trawst.
Mae’r canlyniad yn cadw Aber yn nawfed yn y tabl ac yn codi’r Bala i’r trydydd safle, dros nos o leiaf.
.
Aberystwyth
Tîm: Roberts, Baynes, Edwards, Mendes, Williams, Vaz (Kellaway 72’), Jenkins, Jones, Hughes, Price (Boss 76’) Phillips (Ricketss 76’)
Cerdyn Melyn: Jones 17’
.
Y Bala
Tîm: Tibbetts, Burns, Smith, Stephens, Spittle, Burke, Jones (Molyneux 85’), Smith, Leslie (Horwood 86’), Robles (Hayes 86’), Venables
Goliau: Jones 28’, Robles 44’, 77’, Venables 71’, 82’
.
Torf: 587