Caeredin 20–7 Dreigiau
Colli fu hanes y Dreigiau wrth iddynt deithio i Murrayfield i wynebu Caeredin yn y Guinness Pro14 nos Wener.
Roedd un cais ym mhob hanner, y naill i Kinghorn a’r llall i Van Der Merwe, yn ddigon i’r tîm cartref.
Chwarter awr a oedd ar y cloc pan groesodd Caeredin am y cais cyntaf, cyflymder Blair Kinghorn yn hollti’r amddiffyn yn rhwydd.
Llwyddodd Simon Hickey gyda’r trosiad cyn ychwanegu cic gosb ar ddiwedd yr hanner i roi deg pwynt o fantais i’r tîm cartref wrth droi.
Ymestynnodd Hickey y bwlch gyda phwyntiau cyntaf yr ail hanner, cic gosb arall.
Cafwyd ymateb da gan y Dreigiau serch hynny gyda throsgais yn eu rhoi yn ôl yn y gêm toc cyn yr awr, Adam Warren yn sgorio o dan y pyst yn dilyn dwylo hyfryd Sam Davies.
Os roddodd hynny lygedyn o obaith i’r Cymry, fe ddiflannodd hwnnw bum munud yn ddiweddarach wrth i Duhan Van Der Merwe garlamu trwy eu hamddiffyn i sgorio ail gais Caeredin, 20-7 y sgôr wedi trosiad Hickey.
Mae’r Dreigiau yn aros yn bumed yn nhabl adran A y Pro14.
.
Caeredin
Ceisiau: Blair Kinghorn 15’, Duhan Van Der Merwe 63’
Trosiadau: Simon Hickey 16’, 64’
Ciciau GCosb: Siomon Hickey 40’, 55’
Cerdyn Melyn: Ben Toolis 47’
.
Dreigiau
Cais: Adam Warren 58’
Trosiad: Sam Davies 58’
Cerdyn Melyn: Huw Taylor 55’