Mae’r protestiadau tros annibyniaeth i Gatalwnia wedi arwain at symud y gêm bêl-droed ‘El Clasico’ rhwng Barcelona a Real Madrid yn y Camp Nou i fis Rhagfyr.

Roedd disgwyl i’r gêm fawr gael ei chynnal ddydd Sadwrn (Hydref 26) ac er gwaetha’r awgrym y dylid ei symud i’r Bernabeu ym Madrid, cafodd hi ei gohirio gan Ffederasiwn Pêl-droed Sbaen yr wythnos ddiwethaf.

Roedd Barcelona yn dadlau y dylid cynnal y gêm, gan ddweud eu bod yn hyderus na fyddai risg i gefnogwyr.

Fe fu protestiadau sylweddol yn Barcelona ers i naw o arweinwyr Catalwnia gael eu carcharu am eu rhan yn y refferendwm annibyniaeth yn 2017.

Mae Sbaen yn gwrthod cydnabod canlyniad y refferendwm, gan ddadlau fod y bleidlais yn un anghyfansoddiadol.