Fe fu’n noson siomedig i dimau pêl-droed Abertawe a Chaerdydd neithiwr (nos Fawrth, Hydref 23).

Collodd yr Elyrch o 3-0 gartref yn erbyn Brentford, tra bod yr Adar Gleision wedi cael pwynt ar ôl gêm gyfartal 2-2 ym Millwall.

Bydd y clybiau Cymreig yn herio’i gilydd yn y gêm ddarbi fawr yn Stadiwm Liberty ddydd Sul (Hydref 27).

Siom i’r Elyrch

Mae’r Elyrch wedi llithro o’r trydydd safle i seithfed ar ôl methu ag ennill yr un gêm yn Stadiwm Liberty ers diwedd Awst. Maen nhw wedi ennill un pwynt yn unig yn eu pedair gêm gartref diwethaf.

“Dim ond ychydig ddiwrnodau sydd tan y gêm nesaf,” meddai Steve Cooper, rheolwr Abertawe.

“Mae [y canlyniad] yn siomedig ac fe fydd yn brifo am ychydig ond rhaid i ni symud ymlaen. Mae gêm Caerdydd wedi gwerthu allan. Mae’n gêm fawr, rydyn ni’n gwybod hynny.

“Dw i’n bles ein bod ni gartref pwy bynnag rydyn ni’n eu herio, felly gallwn ni wynebu pethau a chroesi ambell rwystr.

“Dw i ddim yn mynd i guddio rhag sgôr siomedig gartref. Dydi 3-0 byth yn beth da mewn unrhyw ffordd. Roedd y goliau wnaethon ni eu hildio’n siomedig iawn.

“Roedden ni’n rhy oddefol ac os ydych chi felly ar y lefel yma, fe gewch chi eich cosbi.”

Rhwystredigaeth i Neil Warnock

Mae Neil Warnock, rheolwr Caerdydd, yn gandryll ar ôl i’w dîm ildio’u mantais ddwywaith cyn gorffen yn gyfartal 2-2.

Sgoriodd y Cymro Tom Bradshaw y ddwy gôl i Millwall wrth iddyn nhw fynd bum pwynt uwchben safleoedd y gwymp.

“Am wn i, dyna’r mwya’ rhwystredig dw i wedi bod y tymor hwn, ac mae hynny wedi digwydd unwaith neu ddwy,” meddai Neil Warnock.

“Mae’n sgandal, mewn gwirionedd. Dw i jyst ddim yn gwybod beth i’w ddweud.

“Dw i erioed wedi teimlo mor gyfforddus ym Millwall.

“Fe gawson ni ergyd ar ôl ergyd, cyfleoedd o giciau cornel a phob man.

“Roedden ni’n hael iawn gyda’r ddwy gôl ac mae’n anghredadwy, mewn gwirionedd, felly dw i wedi fy siomi, yn enwedig gan fod hwn yn gystal perfformiad oddi cartref ag y cewch chi mewn lle fel hwn.

“Alla i ddim gweld llawer o dimau’n dominyddu fel y gwnaethon ni. Dw i’n credu eu bod nhw wedi sgorio o’r cyfle cyntaf gawson nhw ac fe ddaeth yr ail oddi ar ein cic rydd ni ein hunain.

“Fe chwaraeon ni’n dda, doedden ni ddim am gael ein sugno i mewn – dw i’n gwybod ’mod i jyst yn cael fy ngalw’n gorfforol. Roedden ni eisiau ceisio chwarae os oedden ni’n gallu. Does dim llawer i gwyno yn ei gylch e heblaw’r ddwy gôl.”