Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud y bydd rhaid i’w dîm fabwysiadu’r meddylfryd cywir er mwyn curo Charlton oddi cartref heno (nos Fawrth, Hydref 2).

Mae’r Elyrch yn ddi-guro oddi cartref y tymor hwn, ac maen nhw wedi ennill pwyntiau gwerthfawr yn erbyn rhai o’r timau gorau fel Leeds a Bristol City.

A bydd rhaid iddyn nhw fod ar eu gorau eto i guro tîm Charlton sydd wedi colli un gêm yn unig mewn 22 yn y gynghrair ar eu tomen eu hunain, ac mae Steve Cooper yn dweud bod ganddo fe barch mawr at Lee Bowyer, rheolwr Charlton.

“O’r gemau dw i wedi’u gweld, maen nhw’n ymrwymo i roi o’u gorau ac maen nhw wedi bod yn ei chanol hi ym mhob gêm er eu bod nhw wedi colli ambell gêm cyn y penwythnos.”

Yn ôl Steve Cooper, bydd meddylfryd ei dîm yr un mor bwysig â’u perfformiad.

“Eleni, er ein bod ni am fod yn dîm deniadol, rydyn ni am sicrhau fod gyda ni feddylfryd da hefyd, ac y gallwn ni fod yn barod am yr heriau rydyn ni’n eu hwynebu.

“Bydd hon yn sicr yn un ohonyn nhw.

“Mae’r stadiwm yn un lle maen nhw’n cefnogi’r tîm ond rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at chwarae o dan y llifoleuadau.”

Y timau

Bydd Abertawe heb y cefnwr chwith Jake Bidwell wrth iddo wynebu gêm ola’i waharddiad.

Mae’r asgellwr Aldo Kalulu yn parhau i wella o anaf i’w ffêr.

O ran y tîm cartref, fe fyddan nhw heb Tomer Hemed, Beram Kayal a Lyle Taylor.