Mae ymosodwr Real Madrid wedi cael dau gerdyn coch ar ôl iddo sgorio dwy gôl i Real Madrid neithiwr (nos Sul, Medi 1).
Roedd Real Madrid ar ei hôl hi o ddwy gôl i un, gyda llai na phum munud i fynd, pan sgoriodd y Cymro ei ail gôl i sicrhau pwynt i’r tim.
Yna, yn yr ail funud o amser ychwanegol, fe gafodd gardyn melyn am gamymddwyn cyn derbyn ei ail gerdyn melyn ddau funud yn ddiweddarach am godi ei droed yn rhy uchel.
Gareth Bale a Cristiano Ronaldo yn unig sydd wedi sgorio dwy a derbyn cerdyn coch yn yr un gêm i Real Madrid y ganrif hon.
Nid yw’n glir ar hyn o bryd os yw Real Madrid am apelio yn erbyn y cerdyn coch.