Mae Graham Potter, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud ei fod yn edrych ymlaen at yr “her gyffrous” o geisio cyrraedd y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor.

Mae’r Elyrch yn ddegfed yn y Bencampwriaeth ar hyn o bryd, ac mae’n fathemategol bosib y gallen nhw orffen ymhlith y chwech uchaf yn y tabl.

Maen nhw bum pwynt islaw’r safleoedd hynny, gyda naw pwynt ar gael o’r tair gêm olaf.

Maen nhw’n herio Hull heddiw (dydd Sadwrn, Ebrill 27), cyn croesawu Derby i’r Liberty nos Fercher (Mai 1) a gorffen y tymor yn Blackburn.

Y gwir amdani yw fod rhaid i’r Elyrch gipio triphwynt ym mhob gêm er mwyn cadw eu gobeithion yn fyw a hyd yn oed wedyn, bydd rhaid iddyn nhw ddibynnu ar ganlyniadau’r timau eraill i’w helpu.

“Mae’n dangos bod y Bencampwriaeth yn anwadal ac yn gallu taflu canlyniadau i fyny,” meddai Graham Potter.

“Mae gyda ni siawns go fach a phan fo siawns fathemategol ar drothwy’r wythnos olaf, fe allwch chi weld pam ei bod yn destun sgwrs.

“Ond a bod yn realistig, mae angen i ni ennill ein holl gemau a hyd yn oed wedyn, efallai na fydd hynny’n ddigon.

 

“Yet, at this stage of the season results and funny things can happen, so we need to just focus on ourselves, focus on the next game against Hull City and try and win that.”

“Mae’n eitha’ syml, mae’n rhaid i ni ennill, canolbwyntio ar ein gemau ni ac os gallwn ni wneud hynny, symud ymlaen i’r un nesaf a cheisio eto.”
Mae’r Elyrch bellach wedi ennill chwe gêm o’r bron yn Stadiwm Liberty.
“Rydyn ni wedi gwella wrth i’r tymor fynd yn ei flaen ac ers y brêc ar gyfer gemau rhyngwladol, mae ein perfformiadau wedi gwella ac rydyn ni wedi cymryd cam ymlaen eto.”

“Mae’n wych ein bod ni’n dal ynddi ar drothwy’r wythnos olaf. Mae’n wych i’r chwaraewyr ac mae’n wych i’r cefnogwyr.”