Mae canolwr Cymru, Matt Smith, wedi ymestyn ei gytundeb gyda chlwb pêl-droed Manchester City tan 2023.

Ar fenthyg gyda FC Twente yn yr Iseldiroedd y mae’r Cymro 19 oed y tymor hwn, ble mae wedi chwarae 17 gêm gan sgorio ddwywaith.

Fe symudodd Matt Smith i Manchester City o West Bromwich Albion pan yn 14 oed. Roedd yn un o’r chwaraeewyr ddechreuodd y gêm rhwng Cymru a Slofacia yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sul (Mawrth 24),

Mae wedi bod yn gapten ar dimau ieuenctid ei glwb a’i wlad, ac fe enillodd ei gap cyntaf i Gymru ar Fai 20 y llynedd yn erbyn Mecsico.