Mae cyn-asiant Emiliano Sala yn teimlo ei fod yn cael y bai am y ddamwain awyren wnaeth ladd y pêl-droediwr.
Roedd Willie McKay wedi helpu i sicrhau’r cytundeb gwerth £15 miliwn am y chwaraewr rhwng clybiau pêl-droed Caerdydd a Nantes.
Yntau hefyd oedd wedi trefnu’r trip yn yr awyren blymiodd i’r môr gan ladd Emiliano Sala, oedd yn 28, a’r peilot David Ibbotson.
Mae Willie McKay yn honni fod clwb Caerdydd wedi gadael y chwaraewyr i drefnu ei gynlluniau teithio ei hun, ac mae yn credu y gallai’r clwb fod wedi gwneud mwy.
“Cafodd ei adael yn y gwesty er mwyn gwneud ei drefniadau teithio ei hun – doedd neb yng Nghaerdydd i weld yn gwneud unrhyw beth,” meddai Willie McKay wrth BBC Sport.
Mae’r clwb wedi dadlau’n gryf yn erbyn yr honiad hwnnw a dywedon nhw eu bod wedi cynnig trefnu sedd iddo ar awyren, ond i Emiliano Sala ei wrthod.
“Mi fydd rhywun yn edrych am rywun i’w feio – fi i ddechrau – ac yn y diwedd, mae’n debyg mai bai’r peilot fydd hi,” ychwanegodd Willie McKay.
Mae’r chwilio am gorff y peilot, David Ibbotson, wedi parhau’r wythnos hon. Mae archwilwyr yn dweud nad oedd ganddo drwydded i hedfan awyrennau masnachol ond fod ganddo un i hedfan teithwyr yn yr Undeb Ewropeaidd.