Mae un o’r geiriau sy’n diffinio tref Caernarfon wedi cyrraedd un o gylchgronau pêl-droed mwyaf adnabyddus y byd.
Yn rhifyn 17 o’r cylchgrawn Mundial mae eitem ar gefnogwyr clwb pêl-droed Caernarfon ar ôl i un o’i newyddiadurwyr deithio i un o gemau oddi gartref gyda’r Cofi Armi.
Mae’n ymddangos bod y gair “Cont” a diwylliant pêl-droed yn benodol Caernarfon wedi dal diddordeb y cylchgrawn sydd yn denu darllenwyr ar draws y blaned.
‘Pam eich bod yn caru pêl-droed’
Cylchrawn sy’n canolbwyntio ar ddiwylliant y byd pêl-droed yw Mundial gan edrych ar holl elfennau’r chwaraeon fel steil, hunaniaeth, y teithio, y dillad a’r pethau eraill sy’n amgylchynu byd y bêl gron.
“Rydym yn pwyntio lens eang ar yr hyn sy’n digwydd ar draws y byd, ac yn eich atgoffa pam eich bod yn caru pêl-droed ar bob tudalen,” mae’n dweud ar eu gwefan.
Y Cofi Armi a’i ieithwedd fydd yn cael eitem yn y rhifyn ddiweddaraf, o dan y teitl “Be ti’n neud yma Cont?” (sic)
Dydi hi ddim yn synod bod cefnogwyr Caernarfon yn cael y sylw wrth feddwl am y diwylliant bêl-droed unigryw yn y dref, ac o ganlyniad i awch y Cofi Army.
Roedd torf o 1,006 i gêm gartref diwethaf y Caneris yn yr Oval yn erbyn Y Seintiau Newydd nos Lun (Chwefror 25), pan gollon nhw 0-3.
Issue 17 has gone to print, and it's our most global issue yet. We've travelled over 25,000 miles to bring you incredible stories from Guatemala, Colombia, Worthing, Casablanca, the Basque Country, Emilia-Romagna, and Caernarfon.
PREORDER NOW: https://t.co/UIukZoE9tJ
— MUNDIAL (H) (@MundialMag) February 25, 2019