“Gwaith tîm” yw’r broses o drefnu cytundebau chwaraewyr pêl-droed Abertawe wrth iddyn nhw ddod i ben y tymor hwn, meddai’r rheolwr Graham Potter.

Huw Jenkins, y cyn-gadeirydd a adawodd ei swydd ddechrau’r mis, oedd yn gyfrifol am y trafodaethau.

Erbyn hyn, y rheolwr, ei ddadansoddwr recriwtio Kyle Macaulay, a Steve Kaplan a Jason Levien, y perchnogion Americanaidd, sy’n rhannu’r gwaith rhyngddyn nhw.

Ac mae posibilrwydd y gallai’r Elyrch geisio penodi Cyfarwyddwr Pêl-droed i lenwi’r bwlch sydd wedi’i adael gan Huw Jenkins.

Cytundebau

Wrth i’r tymor ddechrau dirwyn i ben, fe fydd Abertawe’n awyddus i sicrhau bod y capten Leroy Fer, ynghyd â Wayne Routledge, yr is-gapten Mike van der Hoorn, Martin Olsson a Luciano Narsingh yn llofnodi cytundebau newydd.

“Mae’n dipyn o ymdrech ar y cyd rhyngof fi, Kyle a’r perchnogion,” meddai Graham Potter, sy’n gwadu y gallai’r trafodaethau dorri i lawr yn absenoldeb cadeirydd i oruchwylio’r cyfan.

“Gawson ni ein synnu rywfaint pan adawodd y cadeirydd a’r hyn sy’n bwysig nawr yw cael y broses yn gywir a mynd o gwmpas ein busnes.

“Dw i ynghlwm wrth y broses. Ond dw i ddim yn treulio amser hir yn trafod gyda’r asiantiaid. Dw i ddim yn meddwl y byddai hynny’n beth da i fi nac i’r clwb.”

George Byers

Un sydd â chytundeb tan 2020 ond sydd wedi codi amheuon am ei ddyfodol yn Stadiwm Liberty yw’r chwaraewr canol cae ifanc, George Byers.

Yn enedigol o Lundain, ond â’i rieni’n Albanwyr, mae adroddiadau’r wythnos hon yn awgrymu mai ei freuddwyd fyddai cynrychioli tîm Glasgow Rangers yn Uwch Gynghrair yr Alban.

Ond mae ganddo fe dipyn o daith o’i flaen i gyrraedd yr uchelfannau hynny, meddai Graham Potter.

“Boi ifanc yw e sy’n darganfod ei draed yn y gêm.

“Fe wnaeth cefnogwr Rangers ofyn cwestiwn damcaniaethol ac mae’n bosib na ddaeth yr ateb allan yn iawn.

“Ond mae e wedi ymrwymo i Abertawe.

“Mae e wedi dod i mewn ac wedi dangos ei safon. Mae e’n darllen y gêm yn dda iawn ac mae ganddo fe ymennydd pêl-droed da.

“Mae e wedi bod yn brwydro i gyrraedd y tîm ac fe fu’n rhaid iddo fe fod yn amyneddgar.

“Mae e’n rhoi o’i orau bob dydd.”

Leroy Fer

Yn y cyfamser, mae pryderon o’r newydd am ffitrwydd y capten Leroy Fer, wrth i’r Elyrch baratoi i groesawu Bolton i Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn.

Mae’n parhau i geisio cyrraedd ei lefelau ffitrwydd llawn yn dilyn anaf i linyn y gâr, ond mae amheuon na fydd e ar gael ar gyfer y gêm ddydd Sadwrn.

“Roedd Leroy yn agos [at ddychwelyd] ond fe gafodd e rywfaint o siom,” meddai Graham Potter.

“Dyw e ddim yn rhywbeth difrifol, ond mae e wedi mynd un cam yn ôl o ran y penwythnos, yn sicr.”

Ond mae’n cyfaddef y gallai ychydig wythnosau fynd heibio cyn i’r clwb wybod y sefyllfa’n iawn.

Mae’r Elyrch yn dal heb y cefnwr chwith Martin Olsson a’r amddiffynnwr canol Joe Rodon yn y tymor hir.