Mae pryderon am ffitrwydd David Brooks a James Chester ar ddechrau ymgyrch Ewro 2020 tîm pêl-droed Cymru.

Dyw hi ddim yn glir ar hyn o bryd a fydd y naill na’r llall ar gael ar gyfer y gêm agoriadol yn erbyn Slofacia yng Nghaerdydd ar Fawrth 24.

Mae David Brooks wedi anafu ei ffêr sy’n golygu nad yw wedi chwarae ers mis diwethaf, tra bod gan James Chester anaf i’w benglin ers gêm Aston Villa yn erbyn Ipswich fis diwethaf.

Does dim arwydd ar hyn o bryd pryd fydd y naill na’r llall yn dychwelyd i’r ymarferion.