Mae Neil Warnock, rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, yn dweud ei fod am ddewis chwaraewyr sydd am “fynd i’r ffosydd” dros y clwb.
Bydd yr Adar Gleision yn cwympo’n ôl i safleoedd y gwymp unwaith eto pe bai Southampton yn sicrhau o leiaf bwynt yn erbyn Fulham heno (nos Fercher, Chwefror 27).
Mae tîm Neil Warnock wedi ildio wyth gôl yn eu dwy gêm ddiwethaf.
Sgoriodd Gylfi Sigurdsson, cyn-ymosodwr Abertawe, ddwywaith wrth i Everton eu curo o 3-0 neithiwr, ac fe gollon nhw gartref o 5-1 yn erbyn Watford nos Wener (Chwefror 22).
Byddan nhw’n teithio i Wolves ddydd Sadwrn.
‘Fyddwn ni ddim yn mynd i lawr heb frwydr’
“Byddwn ni fwy na thebyg yn y tri safle isaf wrth i ni deithio i Wolves, ac fe fydd pobol yn wfftio ein gobeithion ni,” meddai Neil Warnock yn dilyn y gêm neithiwr.
“Dw i’n gwybod [pwy fydd yn] fy nhîm ar gyfer y gêm yn erbyn Wolves, a dw i eisiau pobol a fydd yn y ffosydd oherwydd ces i fy siomi gan ddau neu dri heno.
“Dw i ddim yn mynd i ildio, a nawr yw’r amser i sefyll i fyny a gwneud i bopeth gyfri.
“Fyddwn ni ddim yn mynd i lawr heb frwydr. Ond rydyn ni’n rhedeg allan o gemau nawr.
“Mae gyda ni ddeg gêm ar ôl, a rhaid i ni greu ein lwc ein hunain.”