Mae Mike Stowell, rheolwr dros dro tîm pêl-droed Leicester City, yn dweud bod y clwb yn “ysu” am gael cydweithio â Brendan Rodgers, cyn-reolwr Abertawe.
Mae’r gŵr 46 oed o Ogledd Iwerddon wedi’i benodi’n rheolwr tan 2022, gan olynu Claude Puel, y Ffrancwr a gafodd ei ddiswyddo’n ddiweddar yn sgil dechrau gwael i’r tymor.
Brendan Rodgers oedd wrth y llyw yn Abertawe yn 2011 pan gafodd y clwb ei ddyrchafu i Uwch Gynghrair Lloegr. Aeth o’r fan honno i Lerpwl yn Uwch Gynghrair Lloegr, cyn symud at Celtic ac ennill Uwch Gynghrair yr Alban ddau dymor yn olynol.
Fe wyliodd Brendan Rodgers ei dîm newydd yn curo Brighton o 2-1 neithiwr (nos Fawrth, Chwefror 27), cyn mynd i mewn i’r ystafell newydd a thraddodi araith ysbrydoledig.
“Roedd e’n bositif iawn, yn bownsio,” meddai Mike Stowell.
“R’yn ni i gyd yn ysu am gael cydweithio â fe.
“Fe ddywedodd e o’r blaen ei fod e’n mynd i’w gadael hi a gwylio o’r uchelfannau.
“Dywedodd e am ddewis yr eilyddion fy hun a bwrw iddi, ond mae e’n mynd i ddod â rhywbeth arbennig i’r clwb.
“Fe siaradodd e ac roedd y bois yn llawn parch yn gwrando arno fe.
“Dywedodd e, ‘Dw i ond wedi gadael i ddod yma am un rheswm, a chael gweithio gyda’r criw hwn o chwaraewyr yw’r rheswm hwnnw’.
“Mae hynny’n adrodd cyfrolau am y criw ifanc hwn o chwaraewyr.”
‘Potensial enfawr’
Mae Brendan Rodgers yn dweud ei fod e’n symud at garfan sydd â “photensial enfawr”.
“Mae hon yn garfan ifanc, carfan ddeinamig iawn, mae ganddi botensial enfawr ac mae gyda chi chwaraewyr sydd â phrofiad da hefyd,” meddai wrth orsaf deledu LCFC TV.
“Mae’n deimlad gwych. Dw i’n gwybod fy mod i’n ymuno â chlwb gwych sydd wedi tyfu mor gyflym dros y blynyddoedd diwethaf.”