Mae cae rhannol synthetig Rodney Parade yn dechrau torri i fyny ar drothwy gêm fawr tîm pêl-droed Casnewydd yn erbyn Manchester City yng Nghwpan FA Lloegr heddiw (dydd Sadwrn, Chwefror 16).

Roedd Pep Guardiola, rheolwr Manchester City, eisoes wedi mynegi ei bryder am gyflwr y cae, sydd hefyd yn cael ei ddefnyddio i gynnal gemau rygbi Casnewydd a’r Dreigiau.

Ac wedi i dîm rygbi marched Cymru ddefnyddio’r cae hefyd, mae dros 60 o gemau wedi’u cynnal arno eisoes y tymor hwn.

“Bydd y cae yn gweddu’n fwy i ni na nhw,” meddai Michael Flynn, rheolwr Casnewydd, sy’n ymddangos yn y pumed rownd am y tro cyntaf ers 70 o flynyddoedd.

“Dw i’n falch ynghylch hynny oherwydd bydd yn rhoi mwy o siawns i ni na phe baen ni wedi gorfod mynd i’r Etihad [cae Manchester City].

“Ond gadewch i ni beidio â beio’r cae na chwilio am esgusodion. Mae’n rhaid i ni chwarae allan yno hefyd.

“Mae’r chwaraewyr hyn yn arfer codi’u hunain ar gyfer y fath achlysuron, ac maen nhw’n griw gwych.”

Torri’r cae

Mae Pep Guardiola, rheolwr Manchester City, yn gwadu iddo roi gorchymyn i dirmon y clwb i dorri cae ymarfer i fyny er mwyn paratoi ar gyfer yr ornest fawr.

“Rhaid i ni addasu,” meddai. “Rydym yn derbyn yr her.

“Fe wnaethon ni chwarae’n dda yn yr Uwch Gynghrair yn erbyn Tottenham wedi’r gemau NFL (pêl-droed Americanaidd).

“Gadewch i ni weld beth fydd cyflwr y cae wrth i ni gyrraedd.

“Os na allwch chi chwarae’r gêm arferol, rhaid i chi chwarae’n hirach neu’n gyflymach – ond dw i ddim yn gwybod. Cawn ni weld.

“Dydych chi ddim yn ennill unrhyw beth drwy gwyno am hynny.

“Pan ydyn ni’n chwarae oddi cartref, nhw yw perchnogion eu stadiwm, a gallan nhw chwarae ar y cae sut bynnag mae e.”

Y bwlch rhwng y timau

Mae 82 o lefydd rhwng Manchester City, pencampwyr presennol Uwch Gynghrair Lloegr, a Chasnewydd yn yr ail adran.

Gwerth yr unarddeg chwaraewr diweddaraf i chwarae i Manchester City oedd £465m, tra mai £50,000 oedd y ffigwr cyfatebol i Gasnewydd.

Ond mae’r Alltudion eisoes wedi curo Leeds, Leicester City a Middlesbrough yn y gystadleuaeth yn Rodney Parade dros y 14 mis diwethaf.