Mae angladd Emiliano Sala, chwaraewr 28 oed pêl-droed Caerdydd, yn cael ei gynnal yn yr Ariannin heddiw (dydd Sadwrn, Chwefror 16).
Cafodd yr ymosodwr ei ladd pan blymiodd yr awyren yr oedd yn teithio ynddi i’r Sianel ger Guernsey ar Ionawr 21.
Fe ddigwyddodd ddyddiau’n unig wedi iddo symud o glwb Nantes yn Llydaw i’r Adar Gleision.
Cafwyd hyd i’w gorff ar Chwefror 7, ond mae’r chwilio am y peilot David Ibbotson yn parhau.
Mae Neil Warnock, rheolwr Caerdydd, a’r prif weithredwr Ken Choo wedi teithio i’r Ariannin ar gyfer ei angladd yn nhref Progreso yn Santa Fe, lle mae gwylnos gyhoeddus wedi’i chynnal eisoes.
Yn y cwest i’w farwolaeth, dywedodd y crwner iddo farw o ganlyniad i anafiadau i’w ben a’i gorff.
David Ibbotson
Mae ymgyrch sydd wedi’i sefydlu wedi codi dros £240,000 er mwyn parhau i chwilio am David Ibbotson.
Mae’r teulu’n dweud na fyddan nhw’n rhoi’r gorau i chwilio amdano, a’u bod yn obeithiol o hyd.
Daeth y chwilio i ben dridiau wedi i’r awyren fynd ar goll, a hynny oherwydd y tywydd, ond mae digon o arian wedi’i godi bellach i barhau â’r ymdrechion.