Mae Craig Bellamy wedi camu i lawr o’i swydd yn hyfforddwr tîm dan-18 Caerdydd, wrth i’r clwb ymchwilio i honiad o fwlio yn ei erbyn.

Fe gafodd yr ymchwiliad ei lansio gan yr Adar Gleision ar ôl adroddiadau o gwynion am y modd yr oedd cyn-ymosodwr Cymru wedi trin chwaraewr ifanc sydd bellach wedi gadael y clwb.

Roedd y cwynion, yn ôl adroddiadau papur newydd, wedi eu cyflwyno gan rieni’r chwaraewr.

Mae Craig Bellamy, sydd wedi ennill 78 o gapiau dros ei wlad a chwarae i glybiau Lerpwl, Manchester City a Newcastle yn ystod ei yrfa, yn gyfrannwr cyson i Sky Sports.

Mae Craig Bellamy yn gwrthod y cyhuddiadau.