Mae Fabio Paratici, cyfarwyddwr clwb pêl-droed Juventus yn yr Eidal, wedi cadarnhau ei  fod yn “hoff iawn” o ganolwr Cymru ac Arsenal, Aaron Ramsey.

Mae cytundeb y Cymro yn Llundain yn dod i ben ddiwedd y tymor ac nid yw’n debygol y bydd cyn-chwaraewr dinas Caerdydd yn aros yn yr Emirates.

Yn ddiweddar mae nifer o glybiau Ewropeaidd wedi dangos diddordeb yn Aaron Ramsey, yn cynnwys Bayern Munich, Inter Milan, Real Madrid a Juventus.

Mae Arsenal a’u rheolwr Unai Emery yn benderfynol o gadw Aaron Ramsey tan ddiwedd y tymor os na ddaw cynnig o £40m amdano yn ystod y mis hwn.