Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi cadarnhau eu bod nhw’n ymchwilio i gŵyn yn erbyn hyfforddwr y tîm dan 18, Craig Bellamy.
Yn ôl adroddiad ym mhapur The Daily Mail, mae’n debyg bod rhieni chwaraewr ifanc wedi cwyno am ymddygiad cyn-gapten Cymru tuag at eu mab, sydd bellach wedi gadael y clwb.
Mewn cynhadledd i’r wasg ddoe ar ddydd Calan, fe gadarnhaodd hyfforddwr yr Adar Gleision, Neil Warnock, fod rheolwyr y clwb yn ymchwilio i’r mater.
Mae lle i gredu y bydd y prif weithredwr, Ken Choo, a’r cadeirydd, Mehmet Dalman, yn ystyried y manylion cyn cymryd unrhyw gamau pellach.
Mae Craig Bellamy, sydd wedi ennill 78 o gapiau dros ei wlad a chwarae i glybiau Lerpwl, Manchester City a Newcastle yn ystod ei yrfa, yn gyfrannwr cyson i Sky Sports.