Casnewydd 1–4 Forest Green
Sgoriodd George Williams hatric wrth i Forest Green drechu Casnewydd ar Rodney Parade yn yr Ail Adran brynhawn Mercher, gŵyl San Steffan.
Agorodd y Cymro ifanc y sgorio yn yr hanner cyntaf cyn ychwanegu dwy arall yn gynnar yn yr ail gyfnod wedi i Gasnewydd fynd i lawr i ddeg dyn.
Tri munud yn unig a oedd ar y cloc pan roddodd Williams yr ymwelwyr ar y blaen ac felly yr arhosodd hi tan ddau funud cyn yr egwyl pan ddyblodd Tahvon Campbell y fantais.
Roedd Casnewydd yn ôl yn y gêm yn eiliadau olaf yr hanner diolch i gic o’r smotyn Padraig Amond ond rhoddwyd cnoc i’w gobeithion ym munudau agoriadol yr ail wrth i Dan Butler gael ei anfon oddi ar y cae am dacl wael.
Manteisiodd Williams ar y gwagle ychwanegol i rwydo dwy gôl mewn pum munud i gwblhau ei hatric a sicrhau’r tri phwynt i’w dîm.
Mae’r canlyniad yn un costus i Gasnewydd wrth i dîm Mike Flynn lithro pedwar lle i’r unfed safle ar ddeg yn y tabl.
.
Casnewydd
Tîm: Day, Franks, Bennett, Demetriou, Pipe, Dolan (O’Brien 60’), Bakinson, Labadie (Willmott 8’), Butler, Amond, Matt (Semenyo 80’)
Gôl: Amond 45+2’
Cardiau Melyn: Bennett 33’, Pipe 40’
Cerdyn Coch: Butler 51’
.
Forest Green
Tîm: Montgomery, Rawson, McGinley (Collins 75’), Gunning, Shephard, Brown, Winchester, James, Mills, Williams (Grubb 62’), Campbell (Reid 72’)
Goliau: Williams 3’, 52’, 57’, Campbell 43’
.
Torf: 4,203