Fe fu ymateb cymysg i benodiad cyn-reolwr y tîm pêl-droed, Ole Gunnar Solskjaer i’r brif swydd ym Manchester United.

Mae wedi’i benodi tan ddiwedd y tymor yn dilyn y penderfyniad i ddiswyddo Jose Mourinho, ac fe fydd e’n dychwelyd i Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sadwrn i wynebu ei hen glwb.

Tra bod cefnogwyr y Cochion yn croesawu’r gŵr o Norwy yn gynnes ar ôl 12 tymor yno’n chwaraewr, mae cefnogwyr yr Adar Gleision yn dal i gofio tymor 2014, pan gwympon nhw o Uwch Gynghrair Lloegr i’r Bencampwriaeth.

Yn ôl yr awdur a newyddiadurwr Aled Blake, doedd Ole Gunnar Solskjaer ddim yn ddigon da i Gaerdydd a does dim rheswm i gredu na fydd hynny’n wir yn un o brif swyddi pêl-droed Lloegr.

“Dydy cefnogwyr Caerdydd ddim yn cofio’i gyfnod wrth y llyw yn gynnes iawn o gwbl,” meddai.

“Fe wnaethon ni gwympo o gyfanswm sylweddol iawn yn y pen draw ac roedd pethau yn y Bencampwriaeth yn wael iawn hefyd.

“Fe arwyddodd e sawl chwaraewr, a nifer ohonyn nhw wedi’u talu’n ormodol fel bod gennym garfan anghytbwys o chwaraewyr oedd yn cael eu talu gormod.

“Fe gymerodd sawl blwyddyn i ddod dros hynny.”

‘Eisin ar y gacen’

Cafodd Ole Gunnar Solskjaer ei benodi ar adeg pan oedd y clwb newydd ddiswyddo Malky Mackay am gyfres o negeseuon testun amheus, ac roedd y cefnogwyr dal yn ddig ar ôl i’r perchennog Vincent Tan newid lliw’r clwb o las i goch.

“Solskjaer oedd yr eisin ar y gacen mewn cyfnod ofnadwy,” meddai Aled Blake.

“Dw i ddim yn gwybod pwy fyddai wedi gallu gwyrdroi’r clwb, ond yn sicr nid fe [oedd hwnnw].

“Dw i ddim yn meddwl y bydd yn drychineb oherwydd dw i ddim yn meddwl y gall pethau fynd lawer gwaeth iddyn nhw yng nghyd-destun eu hanes.

“Mae e’n fwy ymwybodol o’r byd erbyn hyn ac yn gwybod beth sy’n ei ddisgwyl.

“Mae cynhesrwydd tuag ato fe yn United, ac mae e mewn gwell sefyllfa i wneud y swydd honno erbyn hyn nag oedd e i wneud y swydd yng Nghaerdydd ond ar yr un pryd, alla i ddim gweld llawer o bethau positif o’i blaid e.

“Mae e’n benodiad poblogaidd oherwydd ei fod e’n chwaraewr mor boblogaidd ond o safbwynt pêl-droed, dw i ddim yn sicr fod ganddo fe’r gallu i reoli clwb fel Man U.”