Y Gweilch 32 – Ulster 17
Enillodd y Gweilch o 32 – 17 neithiwr mewn gêm siomedig a difflach. Bu cais cosb yr un yn ystod yr ail hanner yn ogystal â chais i Richard Fussel a Paddy Jackson dros Ulster.
Ulster ddechreuodd orau wrth geisio parhau â’u record 100% eleni, pan fylchiodd y maswr amryddawn wedi pedair munud. Ychwanegodd y trosiad i wneud y sgôr yn 7 – 0.
Ciciodd Dan Biggar chwe gôl gosb cyn iddo gael ei eilyddio gan y maswr ifanc Matthew Morgan ychydig ar ôl yr awr. Serch hynny, y blaenwyr ddylai dderbyn y clod am eu gwaith caib a rhaw drwy gydol y gêm, a dalodd ar ei ganfed yn yr ail hanner.
Mae’n siŵr y bydd y ffaith bod aelod o’r Gweilch wedi bod yn y cell cosb yn ystod pob gêm eleni yn bwnc trafod i’r tîm hyfforddi yn ystod yr ymarfer yr wythnos hon. Richard Hibbard welodd y garden felen neithiwr wedi ffrwgwd ymysg y rheng flaen yn yr hanner cyntaf.
Siomedig oedd gweld diffyg antur a menter y Gweilch, ac roedd Biggar yn benderfynol o gicio cymaint o’r meddiant â phosib tra ei fod ar y cae.
Rhaid cofio os yw’r chwaraewyr gorau yng Nghwpan y Byd, mae’r dyfarnwyr gorau yno hefyd. Mae’n glod i’r Gynghrair Pro12 bod cynifer o’u dyfarnwyr ar ddyletswydd ryngwladol yn ystod deufis agoriadol y tymor. Serch hynny, mae’r bwlch i’r lefel nesaf o ddyfarnwyr yn sylweddol.
Dyfarnodd Dudley Phillips ardal y dacl yn wahanol yn ystod y ddau hanner, ac roedd rhwystredigaeth i’w weld yn amlwg ar wynebau chwaraewyr y ddau dîm. Anfonwyd Robbie Diack, blaenasgellwr Ulster, o’r maes am ddeg munud am drosedd proffesiynol o dan y pyst.
Wedi bron i ddeg munud o sgrymio, penderfynodd Mr Phillips mai digon yw digon a gwobrwyo cais cosb i’r tîm cartref. Pam na aeth unrhyw aelod o reng flaen y Gwyddelod i’r gell cosb yn dilyn y penderfyniad hwn, pwy a ŵyr? Hyd yn oed pe bai eu gwrthwynebwyr wedi colli aelod o’u tîm, ni fyddai’r Gweilch wedi dod dim nes i sgorio cais wrth iddynt golli eu siâp yn llwyr yn ystod yr ail hanner.
Pentwr o gamgymeriadau arweiniodd at gais Richard Fussel. Ildiodd y Gweilch y bêl yn y dacl cyn i Ulster chwarae pêl fasged â phêl annisgwyl y tu ôl i’r llinell fantais a chyflwyno’r bêl ar blât i Fussel i dirio rhwng y pyst. Cais haeddiannol i’r asgellwr am ei ymdrechion drwy gydol y gêm.
Cadwodd Ulster at eu tasg ac fe’u gwobrwywyd yn y pendraw â chais cysur ddwy funud o’r diwedd. Wedi cyfnod hir o bwyso ar linell gais y Gweilch, cyrhaeddodd y dyfarnwr pen ei dennyn ag amddiffyn y Gweilch a gwobrwyo cais cosb i’r ymwelwyr. Trosodd Mckinney, eilydd Jackson, a’r sgôr terfynol felly yn 32 – 17.
Perfformiad siomedig arall gan y tîm cartref, ond byddai pob un o ranbarthau Cymru wedi rhoi eu braich dde i allu chwarae cynddrwg a sicrhau record ddiguro yn y mis agoriadol
Adroddiad: Huw Wilcox