Mae’r dyfalu ynghylch dyfodol ymosodwr tîm pêl-droed Abertawe, Wilfried Bony yn parhau ar ôl i’r rheolwr Graham Potter wrthod cadarnhau na gwadu y bydd e’n gadael y clwb ym mis Ionawr.

Mae newydd ddychwelyd ar ôl ei anaf hirdymor ddiweddaraf, ac roedd ymhell o fod ar ei orau yn yr ail hanner ddydd Sadwrn diwethaf wrth i’r Elyrch golli o 4-2 yn erbyn Norwich.

“Mae’n un anodd, gan ei fod e wedi bod allan cyhyd,” meddai Graham Potter.

“Mae e wedi cael un o’r anafiadau mwyaf gewch chi yn y byd pêl-droed, felly mae angen i ni roi cyfle iddo fe baratoi [cyn y bydd e’n dechrau gêm].

“Daeth e drwy 45 munud yn ddiogel dros y penwythnos a nawr, mae angen i ni barhau i weithio gyda fe i’w gael e’n ôl i ble’r oedd e cyn yr anaf.”

Cytundeb

Mae adroddiadau bod Wilfried Bony yn ennill £120,000 yr wythnos ar hyn o bryd – cyflog syfrdanol ar gyfer chwaraewr yn y Bencampwriaeth.

Mae hynny’n debygol o gael effaith ar benderfyniad y clwb yn y pen draw i’w gadw neu beidio, ac yntau i mewn ac allan o’r tîm mor aml.

Ond am y tro, mae Graham Potter yn gwrthod meddwl am drosglwyddiadau gydag ychydig dros fis cyn bod y ffenest drosglwyddo’n agor ym mis Ionawr.

“Dydych chi byth yn gwybod yn y byd pêl-droed,” meddai.

“O’m safbwynt i, dw i’n meddwl am sicrhau bod chwaraewyr yn mwynhau chwarae pêl-droed a helpu’r tîm. Ym mis Ionawr, pwy a ŵyr beth allai ddigwydd?

“Mae nifer o ffactorau, nid dim ond o safbwynt Wilfried, ond llawer o chwaraewyr.

“Dw i’n canolbwyntio ar yr ymarferion, y gêm nesaf, a gwella’r canlyniadau a’r perfformiadau.”

West Brom

West Bromwich Albion yw gwrthwynebwyr nesa’r Elyrch heno (nos Fercher, Tachwedd 28), ac mae Graham Potter yn sylweddoli maint y dasg sydd o flaen ei dîm i guro’r tîm sy’n bumed yn y Bencampwriaeth ar hyn o bryd, pum safle a phum pwynt ar y blaen i Abertawe.

Mae gan West Brom reolwr newydd, Darren Moore ar ôl disgyn o’r Uwch Gynghrair ochr yn ochr ag Abertawe ac yn ôl Graham Potter, fe allen nhw fod wedi aros yn y gynghrair uchaf pe bai’r rheolwr wedi cael ei benodi’r tymor diwethaf.

“Mae’n mynd i fod yn gêm anodd iawn,” meddai. “Mae ganddyn nhw uchelgais i fynd yn syth yn ôl i fyny.

“Mae Darren [Moore] wedi gwneud jobyn arbennig ers iddo fe gael ei benodi a phe bai e wedi cael ei benodi’n gynt, mae’n bosib y gallen nhw fod wedi bod yn glwb yn yr Uwch Gynghrair o hyd.”

Tra bod Abertawe wedi colli nifer sylweddol o chwaraewyr ar ddiwedd y tymor diwethaf, mae West Brom wedi llwyddo i gadw nifer o chwaraewyr allweddol ac fe allai arwain at lwyddiant, yn ôl Graham Potter.

“Maen nhw wedi ychwanegu’n dda atyn nhw hefyd. Ond maen nhw wedi bod trwy gyfnod anodd ac wedi dod drwyddi.

“Roedden nhw’n arbennig yn erbyn Leeds. Mae ganddyn nhw chwaraewyr talentog dros ben, ac maen nhw’n drefnus hefyd.”

Graham Potter a Graeme Jones yn ffrindiau

Ar ôl tair blynedd a hanner yn West Bromwich Albion yn chwaraewr, fe adawodd Graham Potter y clwb yn 2000, flwyddyn cyn i Darren Moore gyrraedd.

Ond mae’n adnabod ei is-hyfforddwr, Graeme Jones yn dda, ar ôl cyfnod yn cyd-chwarae yn Boston. Ac mae cefnogwyr yr Elyrch yn ei adnabod yn dda hefyd, ar ôl cyfnod gyda’r clwb yn is-reolwr i Roberto Martinez rhwng 2007 a 2009.

“Roedden ni’n dod ymlaen yn dda ac yn rhannu diddordeb mewn pêl-droed a hyfforddi,” meddai Graham Potter am ei ffrind.

“Wnaethon ni gadw cysylltiad. Roedd e’n hyfforddi yn academi Middlesbrough ac ro’n i’n gwneud rhywbeth tebyg yn y coleg.

“Daeth e i Abertawe gyda Roberto [Martinez] ac aeth fy ngyrfa mewn cyfeiriad arall, ond ry’n  ni wedi bod yn ffrindiau erioed ac wedi bod i ffwrdd gyda’n gilydd.

“Mae e’n foi da ac mae gyda fi barch mawr tuag ato fe fel person ac fel hyfforddwr.

“Mae ganddo fe fedal enillwyr Cwpan yr FA a medal efydd o Gwpan y Byd [gyda Gwlad Belg], sy’n rhywbeth nad oes gan lawer iawn o hyfforddwyr Prydeinig.

“Mae e’n gymeriad ac yn ffrind da.”