Mae Gary Taylor-Fletcher yn dychwelyd i glwb pêl-droed dinas Bangor fel rheolwr-chwaraewr.
Mae’n ymosodwr 37 oed yn gyfarwydd ym myd pêl droed Cymru a Lloegr ac fe ddaeth yn ffefryn i gefnogwyr y Dinasyddion ar ôl treulio 18 mis gwych yno cyn gadael tymor diwethaf.
Roedd wedi chwarae rhan bwysig pan orffennodd Dinas Bangor yn 4ydd ac yna’n 2il yn Uwch Gynghrair Cymru yn 2017 a 2018, drwy sgorio naw gôl mewn 32 gêm.
Mae ganddo brofiad gwych fel chwaraewr proffesiynol ac wedi cicio’r bel ar y lefel uchaf gyda thimau fel Blackpool, Hull, Millwall, Gloucester, Sheffield Wednesday, Huddersfield a Tranmere.
Yn fwy diweddar, mae Taylor-Fletcher wedi bod yn chwarae i Landudno yn Uwch Gynghrair Cymru ble sgoriodd tair gôl mewn tair gem.
“Cadw’r fydd!”
“Dw i’n hynod falch o fod yn ôl fel rheolwr Bangor,” meddai Gary Taylor-Fletcher.
“Dw i’n edrych ymlaen yn fawr at yr her… mae’r tîm ar rediad rhagorol ac rydan ni’n edrych ymlaen at ein taith i Rhyl ddydd Gwener.
“Mi fydda’ i’n rhoi pob peth sydd gen i unwaith eto i sicrhau ein bod ni’n barod fel tîm ar gyfer unrhyw gêm, ac mi fydda’ i hefyd yn ôl ar y cae os a phryd mae fy angen i. Cadwn y ffydd!”