Chesterfield 1–1 Wrecsam
Collodd Wrecsam gyfle i godi i frig Cynghrair Genedlaethol Lloegr gyda gêm gyfartal yn erbyn Chesterfield yn Stadiwm Proact brynhawn Sadwrn.
Bu rhaid i’r Dreigiau fodloni ar bwynt yn unig ar ôl ildio gôl yn y munud olaf.
Aeth Wrecsam ar y blaen wedi ugain munud gyda chic o’r smotyn Brad Walker yn dilyn llawiad Will Evans yn y cwrt cosbi.
Bu bron i dîm Sam Ricketts ddal eu gafael tan y diwedd ond cipiodd Jonathan Smith bwynt i Chesterfield gyda’i gôl hwyr.
Byddai buddugoliaeth wedi codi’r Cymry i frig y tabl oherwydd gêm gyfartal Salford, ond, yn hytrach, maent yn llithro un lle i’r trydydd safle.
.
Chesterfield
Tîm: burton, Denton (amantchi 58’), Maguire, smith, Binnom-Willimas, Hollis, Evans (Shaw 45’), Muggleton (Kiwomya 76’), Weston, Rowley
Gôl: Smith 90’
Cardiau Melyn: Denton 3’, Evans 20’, Rowley 62’, Shaw 81’
.
Wrecsam
Tîm: Lainton, Roberts, Pearson, Carrington (Jennings 45’), Fondop-Talom (Beavon 59’), Young, Pyke (Holroyd 75’), Rutherford, Walker, Wright, Lawlor
Gôl: Walker [c.o.]. 20’
Cardiau Melyn: Pearson 33’, Walker 75’ Lainton 87’
.
Torf: 5,662