Mi fydd hi’n deimlad rhyfedd i Bobby Reid chwarae yn erbyn ei hoff glwb tros y penwythnos.

Mae ymosodwr Caerdydd yn cefnogi Lerpwl ers ei blentyndod, ond glas nid coch fydd lliw ei grys yfory yn Anfield.

Mae’r chwaraewr 25 oed yn gymaint o ffan Lerpwl nes ei fod yn mynd i wylio gemau tîm Jurgen Klopp pan mae’r cyfle yn codi.

Gwelodd Bobby Reid Lerpwl yn trechu Paris Saint Germain 3-2 fis diwethaf pan sgoriodd Roberto Firmino, rhif 9 Lerpwl, gôl yn y funud olaf.

Bydd ei freuddwyd o chwarae yn Anfield yn cael ei wireddu wrth i Gaerdydd lygadu ail fuddugoliaeth ar ôl ennill 4-2 yn erbyn Fulham yn Stadiwm Dinas Caerdydd y Sadwrn diwethaf.

Edmygodd Reid arwyr Lerpwl fel Steven Gerrard a Michael Owen trwy gydol ei blentyndod. Roedd o hyd yn oed wedi mynychu gêm olaf Gerrard yn Anfield.

“Weles i gêm olaf Gerrard yn Anfield ,” meddai, “ac roedd Owen yn rhywun roeddwn i bob amser yn edrych arno, fel unrhyw blentyn oedd eisiau sgorio goliau.”

Sgoriodd Bobby Reid 21 gôl i Fryste’r llynedd cyn symud dros y bont i Gaerdydd am £10 miliwn.

Mi fydd hi’n gêm anodd iddo a Chaerdydd yn erbyn dynion Jurgen Klopp sydd heb golli gem yn Uwch Gynghrair Lloegr eleni.