Dywed amddiffynnwr canol Abertawe, Joe Rodon fod ganddo fe “gyfle enfawr” i gynrychioli Cymru ar ôl cael ei alw i’r garfan.
Mae’n cymryd lle Paul Dummett yn y garfan i herio Sbaen a Gweriniaeth Iwerddon ar ôl i hwnnw dynnu’n ôl yn sgil anaf.
Mae Joe Rodon, sy’n hanu o ardal Llangyfelach y ddinas, yn un sydd wedi dod drwy rengoedd yr Elyrch o dan reolaeth Graham Potter.
Ac ar ôl plesio i’r tîm cyntaf, mae’n bosib y gallai chwarae rhan yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Sbaen ar Hydref 11 a’r gêm yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon ar Hydref 16.
Dywedodd wrth wefan Clwb Pêl-droed Abertawe, “Mae’n gyfle enfawr ac yn un dw i’n ddiolchgar amdano fe.
“Gobeithio y bydd hi’n wythnos dda i ni.
“Mae popeth wedi dod yn gyflym dros y misoedd diwethaf. Dw i’n ddiolchgar iawn am yr holl gyfleoedd dw i wedi’u cael. Dyma mae pob bachgen ifanc yn breuddwydio amdano fe.”
Gweithio gyda Ryan Giggs
Ychwanegodd Joe Rodon ei fod yn edrych ymlaen at y profiad o weithio gyda rheolwr Cymru, Ryan Giggs.
“Yn amlwg, roedd Ryan yn chwaraewr gwych.
“Bydd gweithio oddi tano fe’r wythnos hon yn brofiad enfawr i fi. Gobeithio y galla i wneud yn dda ac achub yn llawn ar y cyfle.
“Dw i’n mynd i gymryd popeth un dydd ar y tro a mwynhau’r profiad.”
‘Balch iawn’
Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd rheolwr Abertawe, Graham Potter, “Ry’n ni’n falch iawn o Joe.
“Mae e wedi perfformio’n gyson a po fwyaf y bydd e’n chwarae, gorau fydd e.
“Mae’n gyflawniad gwych iddo fe ac mae’n dangos fod pethau’n gallu digwydd yn gyflym iawn yn y byd pêl-droed.
“Dylai hyn annog pawb yn y clwb, a llongyfarchiadau i bawb yn yr Academi am y rhan maen nhw wedi’i chwarae yn natblygiad Joe.”