Fe fydd chwaraewyr amatur a chwaraewyr futsal yn cynrychioli tîm pêl-droed Denmarc yn erbyn Cymru ddydd Sul (Medi 9).

Mae’r garfan yn cynnwys chwaraewyr o drydedd a phedwaredd adran genedlaethol y wlad.

Daw’r newyddion ar ôl i ffrae tros hawliau masnachol arwain nifer o brif chwaraewyr y wlad i dynnu’n ôl o’r gêm.

Ac ar drothwy’r gêm yn Aarhus, daeth cadarnhad mai cyn-chwaraewr canol cae Arsenal, John Jensen fydd yng ngofal y tîm yn absenoldeb y rheolwr Age Hareide. Dywedodd fod y ffrae yn destun “loes” iddo.

Ar ôl i dîm y merched dynnu’n ôl o gêm ragbrofol Cwpan y Byd fis Hydref y llynedd, cafodd Cymdeithas Bêl-droed Denmarc rybudd y bydden nhw’n cael gwaharddiad o gystadlaethau rhyngwladol pe bai’n digwydd eto o fewn pedair blynedd.

Mae’r ffrae yn golygu na fydd chwaraewr canol cae Spurs Christian Eriksen na golwr Caerlŷr, Kasper Schmeichel ar gael ar gyfer y gêm.

Carfan Denmarc yn llawn

Morten Bank (Avarta), Christoffer Haagh (Jaegersborg futsal), Christian Bannis (TPI), Mads Priisholm Bertelsen (TPI), Christian Bommelund Christensen (Jaegersborg futsal), Victor Hansen (Frederikssund), Nicolai Johansen (Vanlose), Daniel Nielsen (Vanlose), Kasper Skraep (TPI), Anders Hunsballe (Greve), Oskar Hojbye (Vanlose), Rasmus Gaudin (Vanlose), Adam Fogt (Kastrup), Christopher Jakobsen (Hillerod), Rasmus Johanson (HIK), Kevin Jorgensen (Jaegersborg futsal), Kasper Kempel (Skovshoved), Simon Vollesen (Birkerod), Anders Fonss (TPI), Troels Cillius Nielsen (Birkerod), Christian Offenberg (Avarta), Daniel Holm Sorensen (Skovshoved), Louis Veis (Jaegersborg futsal).