Mae rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, Graham Potter wedi dweud ei fod yn falch iawn o’i chwaraewyr ar ôl i 10 dyn yr Elyrch guro Millwall oddi cartref o 2-1.
Chwaraeodd yr Elyrch gyda 10 dyn am 85 munud ar ôl i’r ymosodwr Courtney Baker-Richardson weld cerdyn coch am dacl flêr ar James Meredith ar ôl pum munud.
Ond fe ddaeth y fuddugoliaeth yn ystod y chwarter olaf – eu buddugoliaeth gyntaf ers pedair gêm gynghrair.
Aeth y Saeson ar y blaen drwy Murray Wallace ar ôl 62 munud, cyn i Kyle Naughton daro chwip o ergyd heibio’r golwr o ymyl y cwrt cosbi i’w gwneud hi’n 1-1 ar ôl 76 munud.
Daeth y gôl fuddugol drwy Oli McBurnie gyda phum munud yn weddill, wrth iddo drosi croesiad celfydd Jefferson Montero.
‘Balch’
Dywedodd Graham Potter, “Ro’n i’n meddwl ein bod ni’n fygythiad, cymaint allwch chi gyda 10 dyn, beth bynnag. Dw i’n meddwl ein bod ni wedi chwarae gyda dewrder – roedd y chwaraewyr yn anhygoel, rhyfeddol.
“Dw i’n falch iawn o fod yn hyfforddwr ar Abertawe heddiw oherwydd dw i’n credu ein bod ni’n wych.
“Roedd eu gôl nhw’n siomedig oherwydd fe ddaeth o chwarae gosod.
“Ar wahân i hynny, dw i ddim yn meddwl eu bod nhw wedi creu llawer – roedd yna bwysau, roedd peli’n dod i mewn i’r cwrt cosbi ac roedd pethau roedd rhaid i ni ddelio â nhw.
“Yn nhermau cyfleoedd amlwg, dw i’n credu ein bod ni wedi amddiffyn yn dda ac yn yr ail hanner, fe wnes i anghofio ein bod ni i lawr i 10 dyn.”
Ac fe wnaeth y rheolwr amddiffyn Courtney Baker-Richardson yn dilyn ei gerdyn coch.
“Doedd dim malais o safbwynt Courtney. Mae e wedi chwarae yn ei gêm gyntaf, wedi cyffroi ac wedi mynd i mewn i daclo a doedd hi ddim yn sialens dda.”