Don Cowie (Jon Candy CCA 2.0)
Blackpool 1 Caerdydd 1

Roedd Caerdydd yn anlwcus i beidio â chael mwy nag un pwynt o’u hymweliad â Blackpool.

Fe aethon nhw ar y blaen, rheoli’r chwarae a chael sawl cyfle da i ennill, ond roedd un gôl gan yr hen ben Kevin Phillips yn ddigon i achub tîm Ian Holloway.

Hyd yn oed yn y funud ola’, fe gafodd ergyd ei chlirio oddi ar y lein ac ychydig cynt roedd Peter Whittingham wedi mynd o fewn trwch blewyn gyda chic rydd.

Yr Albanwr, Don Cowie, a gafodd y gwaith ar ôl gwaith da gan Whittingham ond fe sgoriodd Phillips gôl annodweddiadol gydag ergyd o fwy nag 20 llath i unioni pethau.

Yn ôl Meilir Owen ar Radio Cymru, does dim llawer o gêmau mor unochrog heb i dîm sgorio ond, wrth edrych yn ôl,  meddai, fe fyddai pwynt yn Blackpool yn ymddangos yn ganlyniad da.