Scott Sinclair - y gynta' erioed i Abertawe yn yr Uwch Gynghrair
Abertawe 3 West Bromiwch Albion 0

Rydech chi’n gorfod aros am hydoedd am un … ac wedyn mae tair yn dod.

Ar ôl 13 munud, fe dorrodd Abertawe’r ias gyda’u gôl gynta’ erioed yn yr Uwch Gynghrair, o fewn 12 munud arall, roedd ganddyn nhw ddwy, ac fe ddaeth trydedd yn yr ail hanner.

  • Scott Sinclair sy’n cael y clod am y gôl gynta’ honno gyda chic gosb ar ôl trosedd yn erbyn y chwaraewr canol cae, Joe Allen.
  • Roedd gan Sinclair ran yn yr ail hefyd, pan gafodd ei adael ar ei ben ei hun i benio at y gôl ac roedd Leroy Lita wrth law i godi’r briwsion a sgorio o lath neu ddwy.
  • Roedd hi fel ras gyfnewid wrth i Lita helpu i greu’r drydedd gyda’i bas yn rhoi Nathan Dyer yn glir ac yntau’n taro’r bêl i’r rhwyd rhwng coesau’r golgeidwad.

Roedd West Brom wedi cael cyfle neu ddau trwy Shane Long ond Abertawe oedd yn rheoli.

Yr un siom fawr oedd anaf difrifol i chwaraewr Cymru, Neil Taylor, ar ôl i Odemwingie ei daro yn ei ben, a chael cardyn melyn.

Roedd y goliau’n ddigon i sicrhau nad yr Elyrch fydd y clwb cynta’ erioed i fynd am bum gêm Uwch Gynghrair heb sgorio.