Roedd hi’n ddiweddglo cyffrous ar nos Sadwrn yn y Liberty wrth i’r Gweilch drechu Caeredin o 26 i 19 diolch i Justin Tipuric a’i gais o gymal ola’r gem.

Dechrau digon tebyg i Gymru cafodd y Gweilch wrth i Richard Fussel wneud smonach o gic uchel cyn i asgellwr Caeredin, Tim Visser gasglu’r bel a chroesi am gais o fewn chwe’ munud.

Llwyddodd y mewnwr ifanc Rhys Webb, sy’n creu tipyn o argraff ar ddechrau’r tymor, lusgo’i dim yn ôl i’r frwydr â chais unigol gwych ar ôl gwaith da o’r linell gan y blaenwyr. Wedi trosiad Dan Biggar roedd y sgôr yn gyfartal, 7 yr un.


Justin Tipuric
Bu diffyg disgyblaeth yn boen enaid i’r Gweilch ac fe gosbodd Greig Laidlaw nhw drwy gydol y gêm a chadw ei dîm yn yr ornest â phedair gic gosb. Yn ffodus i’r Cymry, bu Caeredin yr un mor ffôl ac roedd Dan Biggar mor ddibynadwy ag erioed wrth iddo lwyddo a phedair gic gosb yn ogystal.

Cafwyd diweddglo rhwystredig i’r hanner cyntaf wrth i’r capten, Tipuric, wastraffu cyfle euraidd gan ollwng y bêl dros y linell gais. Ni lwyddodd y dyfarnwr symud o’r ffordd o ymosodiad addawol arall. Gobeithio y bydd Kristian Phillips yn canolbwyntio’n fwy ar ei redeg yn hytrach nag ymarfer ymhellach ar ei sgiliau gôl adlam!

Wedi i Laidlaw a Biggar gyfnewid ciciau cosb a gyda Ian Evans bellach yn y cell cosb roedd  y sgôr yn gyfartal, 19-19. Diolch i’r amddiffyn cadarn a barhaodd o’r gem gyntaf fe lwyddodd y Gweilch yn gyntaf i beidio ag ildio rhagor o bwyntiau ac wedyn i gadw’r bêl yn fyw ymhell wedi’r 80 munud i alluogi Tipuric i groesi am gais haeddiannol.

Mae yna frwydr anodd arall ar y gorwel wrth i’r Gweilch deithio i’r Eidal i wynebu Treviso bnawn Sadwrn nesaf. Cawson nhw fraw pan herion nhw Aironi ddiwedd tymor diwethaf ac fe fydd Treviso yn dipyn mwy o sialens, yn enwedig o ystyried bod wyth o’r garfan gyda Chymru yn Seland Newydd.