Uwch Gynghrair Cymru
Tref Prestatyn 0 – 1 Tref Y Bala

Mae’r Bala’n aros ar frig Uwch Gynghrair Cymru diolch i gôl wych gan eu chwaraewr canol cae, Mark Connolly.

Roedd yn gêm glos yng Ngerddi Bastion, ond cymerodd Connolly fantais lawn o’r gwynt cryf i sgorio o’r linell hanner wedi 35 munud o’r gêm.

Sylwodd  Connolly bod Dave Roberts wedi crwydro o’i linell gan lobio’r bêl dros ei ben yn daclus i gynnal rhediad da tîm Colin Caton.


Dinas Bangor 0 – 3 Y Seintiau Newydd

Tîm arall sydd ar rediad da ydy’r Seintiau Newydd, sydd bellach yn ail yn y gynghrair.

Roedden nhw’n drech na’r pencampwyr, Bangor, ar Ffordd Ffarar yng ngêm fyw Sgorio bnawn Sadwrn.

Steve Evans, Greg Draper a Matty Williams oedd sgorwyr y Seintiau ac mae adroddiad llawn o’r gêm fan hyn.

Aberystwyth 0 – 2 Tref Port Talbot

Tîm sydd ar rediad gwael ar hyn o bryd ydy Aberystwyth, a gollodd gartre’ eto ddydd Sadwrn yn erbyn Port Talbot.

Dwy gôl yn yr hanner cyntaf aeth â hi i’r ymwelwyr – Cortez Belle wedi 19 munud ac yna Chris Hartland dair munud cyn yr hanner yn selio ffawd dynion Alan Morgan.

Dyw’r canlyniad ddim yn effeithio ar safleoedd yr un o’r timau yn y gynghrair, ond mae Port Talbot bellach â’r un faint o bwyntiau â Llanelli, Prestatyn a Bangor yn y frwydr i gyrraedd y chwech uchaf.


Llanelli 9 – 2 Y Drenewydd

Sgôr mwyaf trawiadol y penwythnos oedd hwnnw ar Barc Stebonheath lle rhwydodd Llanelli naw gôl yn erbyn y Drenewydd.

Roedd dau hat-trick i Lanelli, sef Rhys Griffiths a Craig Moses. Sgoriodd Chris Venables ddwy gyda Craig Williams yn yn cwblhau’r sgorio.

Diwrnod siomedig i’r Drenewydd felly ond cafwyd goliau cysur i Jamie Price a Nick Rhushton.


Castell Nedd 1 – 0 Caerfyrddin

A hwythau wedi colli’n drwm ddwywaith yn yr wythnos diwethaf, fe fyddai Tomi Morgan wedi bod yn ofidus cyn i’w dîm herio Castell Nedd bnawn Sul.

Roedd yn berfformiad llawer gwell gan Gaerfyrddin, er mai’r tîm cartref reolodd y gêm.

Dim ond un gôl oedd ynddi, a honno’n dod i Paul Fawler wedi 67 munud.

Er gwaetha’r perfformiad gwell, mae Caerfyrddin yn aros yn ail o waelod y tabl tra bod Castell Nedd yn codi uwchben Bangor a Phrestatyn i’r trydydd safle.


Lido Afan 0 – 0 Airbus UK Brychdyn

Canlyniad olaf y penwythnos oedd hwnnw yn Stadiwm Marstons.

Fe gafodd y gêm ei hatal am 35 munud oherwydd anaf gwael i Tommy Holmes o Airbus wedi chwarter awr o’r gêm.

Di sgôr oedd hi yn y diwedd ac mae’r ddau dîm yn aros yn eu hunfan yn y tabl.

Fe fydd modd i chi wylio uchafbwyntiau Sgorio o’r gemau hyn yma nes mlaen yn yr wythnos.  Cofiwch am gêm fyw Sgorio bob pnawn Sadwrn ac am y rhaglen uchafbwyntiau bob nos Lun.