Mae’r pêl-droediwr rhyngwladol o Gaerdydd, Gareth Bale, wedi croesawu ei drydydd plentyn i’r byd.

Fe gyhoeddodd yr asgellwr 28 oed ar y wefan gymdeithasol, Twitter, fod mab wedi’i eni i’w ddyweddi, Emma Rhys-Jones, y bore yma (dydd Mawrth, Mai 8).

Mae hefyd wedi cyhoeddi mai enw’r mab yw Axel Charles Bale.

Dyma drydydd plentyn a mab cyntaf Gareth Bale ac Emma Rhys-Jones, sydd hefyd o Gaerdydd.

Mae gan y ddau ddwy ferch yn barod, sef Alba Cilet, 5 oed, a Nava Valentina, 2 oed.