Ei swydd ef yw’r “galetaf ohonyn nhw i gyd”, yn ôl rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, Carlos Carvalhal.

Fe ddaw ei sylwadau wrth iddo ymateb i farn rheolwr Chelsea, Antonio Conte, sy’n dweud ei bod yn haws rheoli tîm yng ngwaelod Uwch Gynghrair Lloegr nag ydyw i reoli un o’r timau gorau.

Mae’r ddau dîm yn herio’i gilydd heddiw am 5.30yp.

Mae Abertawe’n dal i frwydro i aros yn y brif adran – maen nhw’n ail ar bymtheg ar hyn o bryd, ac mae ganddyn nhw 33 o bwyntiau ar ôl 34 o gemau.

Maen nhw bedwar pwynt uwchlaw Southampton, sy’n ddeunawfed. Mae gan Stoke yr un nifer o bwyntiau â Southampton, ond maen nhw wedi chwarae un gêm yn fwy.

Yn y cyfamser, mae Chelsea yn bumed yn y tabl ac yn llygadu lle yng Nghynghrair y Pencampwyr.

“Dw i’n credu mai ein [swydd] ni yw’r galetaf ohonyn nhw i gyd,” meddai.

“Oherwydd pan gyrhaeddon ni, roedden ni bum pwynt ar ei hôl hi ar y gwaelod, a doedd neb arall yn y gynghrair yn y fath sefyllfa.

“Y swydd galetaf yw fy un i. Wnes i ddim paratoi’r tîm o’r dechrau i ennill y teitl nac i fynd i Ewrop. Fe wnes i dderbyn yr her hanner ffordd drwy’r tymor pan oedden ni ar y gwaelod yn y safleoedd disgyn.

“Yn sicr, does yna’r un sefyllfa galetach yn y gystadleuaeth hon.”

Arian

Tra bod Antonio Conte hefyd yn cwyno am ddiffyg arian honedig yn y clwb, dywed Carlos Carvalhal na fu e erioed mewn sefyllfa lle bu ganddo fe ddigon o arian i brynu chwaraewyr.

“Fues i erioed gyda chlwb a ddywedodd wrtha i, ‘Mae gyda chi’r arian yma, gadewch i ni drio dod â chwaraewyr i mewn i gyflawni’r hyn ry’ch chi eisiau ei gyflawni’…

“Hyd yma, fe lwyddais i gydag arian pitw. Ond dw i’n hapus. Dw i ddim yn cwyno.”

Y timau

Fe fydd yr Elyrch heb ddau amddiffynnwr canol – Federico Fernandez a Kyle Bartley – ar gyfer y gêm. Mae’r ddau wedi anafu eu pen-glin.

Yn sgil yr anafiadau, mae’n bosib y bydd Alfie Mawson a Mike van der Hoorn yn chwarae yng nghanol yr amddiffyn fel rhan o 4-4-2 yn hytrach na’r pump arferol yn y cefn.

Mae amheuon hefyd am ffitrwydd yr asgellwr Luciano Narsingh, sydd wedi anafu ei ffêr.

Ond mae disgwyl i’r chwaraewr canol cae Renato Sanches fod ar gael ar ôl gwella o anaf i linyn y gâr.

O safbwynt yr ymwelwyr, mae’r cefnwr chwith Marcos Alonso wedi’i wahardd o hyd, ond mae disgwyl i’r golwr Thibaut Courtois ddychwelyd i’r tîm ar ôl cael gorffwys yn y gêm gwpan yn erbyn Southampton.

Gallai’r chwaraewr canol cae amddiffynnol Danny Drinkwater ddychwelyd ar ôl anaf i gesail y forddwyd, ond mae David Luiz wedi anafu ei ben-glin, ac Ethan Ampadu wedi anafu ei ffêr.