Y Barri 1–1 Y Drenewydd
Sicrhaodd y Barri y seithfed safle holl bwysig yn Uwch Gynghrair Cymru gyda gêm gyfartal yn erbyn y Drenewydd ar Barc Jenner brynhawn Sul.
Pwynt a oedd ei angen ar tîm cartref i gipio eu lle yn y gemau ail gyfle Ewropeaidd a dyna a gawsant diolch i gôl Jonathan Hood toc cyn yr egwyl.
Aeth yr ymwelwyr ar y blaen wedi chwarter awr, Ryan Kershaw yn ennill y bêl yng nghanol cae cyn rhyddhau Ethan Jones i orffen yn daclus heibio i Mike Lewis yn y gôl.
Felly yr arhosodd hi tan saith munud cyn yr egwyl pan unionodd Hood mewn steil, yn torri i mewn ar ei droed dde o’r asgell chwith cyn crymanu ergyd dda i gornel isaf y rhwyd.
Y Drenewydd a ddaeth agosaf at ei hennill hi yn yr ail hanner ond anelodd Kieran Mills-Evans un cyfle da yn syth at Lewis a gwyrodd ergyd Luke Poundford yn erbyn y trawst.
Mae’r canlyniad yn cadw’r Barri yn seithfed yn y tabl, naw pwynt yn glir o’r Drenewydd sydd yn wythfed ac ni all y tîm o’r canolbarth eu dal bellach.
.
Y Barri
Tîm: Lewis, Southam-Hales, Watkins, Cosslett, Hugh, Greening, Saddler, Newman (McLaggon 64’), Cotterill, Fahiya (Gerrard 86’), Hood
Gôl: Hood 38’
.
Y Drenewydd
Tîm: Jones, Williams, Sears, Mills-Evans, Roberts, Harries (Mitchell 72’), Fletcher, Denny, Boundford, Kershaw, Jones
Gôl: Jones 15’
Cardiau Melyn: Harries 37’, Fletcher 76’
.
Torf: 467