Solihull Moors 0–0 Wrecsam
Llithrodd Wrecsam i’r pumed safle yn nhabl Cynghrair Genedlaethol Lloegr yn dilyn gêm gyfartal ddi sgôr oddi cartref yn erbyn Solihull yn Damson Park nos Fawrth.
Yr ymwelwyr o ogledd Cymru a’u llu o gefnogwyr gafodd y gorau o’r hanner cyntaf ond hanner cyfleoedd yn unig a gawsant.
Y tîm cartref a ddaeth agosaf wedi’r egwyl ond tarodd ergyd Adi Yussuf y postyn yn gynnar yn yr ail gyfnod ac aros yn ddi sgôr a wnaeth hi.
Er bod y gêm gyfartal yn ymestyn rhediad heb golli Dean Keates a’i dîm i ddeg gêm, mae llawer o’r rheiny wedi bod yn gemau cyfartal ac mae’r Dreigiau’n llithro i’r pumed safle yn y tabl oherwydd buddugoliaethau i Sutton United a Boreham Wood.
.
Solihull Moors
Tîm: O’Leary, Williams, Reckord, Storer, Kelleher, Daly, Osborne, Carter, Thomas, Hylton, Yussuf (Riley 68’)
.
Wrecsam
Tîm: Dunn, Jennings, Smith, Deverdics, Roberts, Pearson, Wedgbury, Rutherford (Mackreth 76’), Wright, Quigley (Kelly 86’), Holroyd (Franks 68’)
.
Torf: 1,228