Mae pris tocynnau gemau pêl-droed wedi bod yn bwnc llosg ers dipyn o amser, gyda rai clybiau dramor yn codi eu prisiau i gemau Gynghrair y Pencampwyr.

Fe fydd cefnogwyr Chelsea yn gorfod talu £75 i wylio’u tîm mis nesaf yn y Camp Nou. Yn Uwch Gynghrair Lloegr mae prisiau i gefnogwyr oddi cartref yn £30.

Ond mae nifer o gefnogwyr yng Nghymru yn troi oddi wrth eu clybiau traddodiadol i wylio’u clybiau lleol.

Mae Clwb Pêl-droed Conwy wedi dod dan y lach yn ddiweddar am eu bod nhw’n codi £5 yng Nghynghrair Undebol y Gogledd. Ar gyfartaledd, tua £3 mae’r clybiau eraill yn ei godi ar gefnogwyr sy’n dod trwy’r giât.

Dyrchafiad

Mae Conwy yn draddodiadol yn glwb sydd wedi arfer chwarae ar lefel uwch na’r gynghrair hon, ac ar hyn o bryd maen nhw ar frig y tabl yn ceisio cael dyrchafiad i’r Cymru Alliance. Roedden nhw’n cwrdd â Llangefni nos Fercher diwethaf, ac roedd y tîm o Ynys Môn yn fuddugol o 1-2.

Roedd Llangefni wedi cyhoeddi ar ei ffrwd Trydar cyn y gêm, ‘Am fod yn costio £2 yn fwy i ddod i gêm heno, mi wnawn ni ad-dalu’r gwahaniaeth i’n cefnogwyr yn ein gêm gartref nesa’, gyda’r hashnod #angerdddimpunnoedd.

Yn ôl llefarydd ar ran glwb Llangefni, “tipyn o dynnu coes” oedd hynny “i geisio rhoi pwysau arnyn nhw (Conwy)”. Ond mae’n cyfaddef wedyn y byddai codi £5 ar gyfer gemau cartref yn Llangefni yn “achosi dipyn o stŵr”.

Barn y clybiau

CPD Aberffraw – “Dwy bunt ydi cost mynediad i’n gemau ni ac mae plant a phobol ifanc dan 16 yn cael mynediad am ddim,” meddai Gerallt Roberts. “Rydan ni’n meddwl, fel clwb, ei bod hi yn bwysig gadael i blant a phobl ifanc gael mynediad am ddim gan mai nhw yw dyfodol ein clwb.

“Beth sy’n rhaid cofio ydi bod costau talu dyfarnwyr yn y gynghrair o gwmpas £100, felly dydi arian y giât ddim yn cyfro hyn, ond mae cadw costau yn rhesymol yn denu mwy o elw’n y gemau.”

Llanfair Pwllgwyngyll – “Mae hi fyny i’r clwb faint maen nhw eisiau codi ar bris mynediad,” meddai Alan Mummery. “Rydan ni’n codi £3 ar oedolion a £2 consesiynau, efo plant o dan 16 yn dod i mewn am ddim. Rydan ni’n cynnig tocyn tymor, ond dim ond i gemau’r gynghrair.

“Pan oeddan ni yn y Cymru Alliance, roeddan ni’n codi £4, ond ar ôl gostwng cynghrair, mi wnaethon ni ostwng y pris mynediad i gyd0-fynd â chost y swyddogion.”

Bodedern – “Rydan ni’n codi £3, pris teg ym marn y clwb, mae’n rhaid talu’r swyddogion hefyd. Dw i’n meddwl bod y rhan fwyaf yn codi £3 ar wahân i Gonwy – sydd yn anghywir yn fy marn i.”

CPD Llannerch-y-medd Rydan ni fel clwb yn codi £2, ond mynediad am ddim i blant,” meddai John Jukes. “Eto, yn yr ail adran ydan ni. Yn fy marn i, mae £3 yn addas i gynghrair un, mae hyn yn gadael pobol i wario pres ar luniaeth, sy’n dod â mwy o arian i’r clwb, ac mae’n annog cefnogwyr i’n gwylio ni.”

Bae Trearddur – “Mae codi £5 mewn gêm trydedd reng yn chwerthinllyd,” meddai Gwilym Owen. “Pris realistig fasa £2, gyda phensiynwyr a phlant yn rhad ac am ddim. Ar ddiwedd y dydd, pêl-droed lefel sylfaenol ydi o, a cheisio denu cefnogwyr ddylai’r nod fod, nid eu dychryn nhw i ffwrdd.

“Mi wnaethon ni chwarae Conwy yn ddiweddar ganol wythnos, ac mi wnes i gyfri ugain o gefnogwyr – mi ddyla’ clybiau gweithredu o fewn eu  moddion.”

CPD Maes-glas – “Dw i’n meddwl bod £5 yn ormod i dalu yn y gynghrair hon,” meddai Dennis Hogan.

Mochdre Sports “Dw i’n meddwl bod £3 yn fwy na digon, dyna be’ mae rhan fwyaf o glybiau’r gynghrair yn godi,”  meddai Luke Thomas. “Dydan ni fel clwb ddim yn codi pris mynediad.”

CPD Nantlle Vale “Ar Faes Dulyn, rydan ni’n codi £3 i oedolyn, £1.50 i bensiynwr, ac mae plant dan 16 am ddim,” meddai Hefina Roberts. “Dw i’n meddwl fod £5 allan o bob rheswm.”

Mae golwg360 wedi cysylltu â Chlwb Pêl-droed Conwy, ond maen nhw wedi gwrthod ymateb i’r drafodaeth.