Fe fydd golwr tîm pêl-droed Cymru, Owain Fôn Williams, yn mynd i’r Unol Daleithiau am y flwyddyn nesaf, wrth iddo ymuno â chlwb yr Indy Eleven.
Fe fydd y golwr o Fôn syn ymuno â’r clwb o Indiana ar gyfer tymor 2018, a hynny wrth i’w glwb presennol yn yr Alban, Inverness, ei roi ar fenthyg.
Mae Owain Fôn Williams wedi chwarae i’r clwb hwnnw mewn 71 o gemau, ac roedd yn aelod allweddol o garfan Cymru yn ystod pencampwriaeth yr Euros yn 2016.
“Disgwyl ymlaen”
“Fe hoffwn i ddiolch i’r hyfforddwr, Martin Rennie, am roi’r cyfle i mi wisgo crys yr Indy Eleven ar gyfer y tymor sydd i ddod,” meddai Owain Fôn Williams.
“Dw i’n edrych ymlaen i fynd rhwng y pyst yn ein cartref newydd, sef Stadiwm Lucas Oil, gyda’r bechgyn mewn glas.
“Dw i wedi clywed cymaint am y Brickyard Battalion, a dw i methu aros i chwarae o flaen ein cefnogwyr. Ni bia’r tymor hwn!”