Mae rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, Carlos Carvalhal wedi dweud wrth golwg360 y dylai’r cefnogwyr fod yn hapus o gael Cymro yn y brif garfan unwaith eto.

Daw ei sylwadau ddiwrnodau’n unig ar ôl i’r ffenest drosglwyddo gau, ac yn sgil arwyddo chwaraewr canol cae Cymru, Andy King ar fenthyg o Gaerlŷr am weddill y tymor.

Digon cymysg fu ymateb y cefnogwyr, serch hynny, wrth i’r Elyrch arwyddo dim ond dau chwaraewr ar yr unfed awr ar ddeg, wrth ychwanegu Andre Ayew at y brif garfan hefyd – a hynny am £18 miliwn i’w ddenu yn ei ôl o West Ham.

Roedd cryn ddyfalu hyd y diwedd pwy fyddai’n dod i Stadiwm Liberty – gydag enwau fel Lazar Markovic o Lerpwl, a Kevin Gameiro a Nicolas Gaitan o Atletico Madrid yn cael eu cysylltu â’r Cymry.

Ymateb cymysg

Cryn siom i rai, felly, oedd gweld enw Andy King yn cael ei gyhoeddi toc ar ôl i’r ffenest gau nos Fercher.

Ond yn ôl Carlos Carvalhal, mae’r chwaraewr canol cae sydd wedi ennill 44 o gapiau dros Gymru, yn cryfhau’r garfan ac yn llenwi’r bwlch sydd wedi’i adael yn sgil ymadawiad Roque Mesa i Sevilla.

Dywedodd wrth golwg360: “Pe bawn i’n gefnogwr Abertawe ac yn croesawu chwaraewr fel fe, un sy’n Gymro ac sy’n chwarae i’r tîm cenedlaethol, byddwn i’n hapus iawn.

“Os ydw i’n gwybod ei fod e’n ysu eisiau dod i Abertawe – oherwydd ei fod e wedi cael mwy nag un cynnig – byddwn i’n hapus iawn gyda fe.

“Mae e’n chwaraewr sydd â sgiliau tebyg i Ki [Sung-yueng] a [Leroy] Fer a hefyd [Tom] Carroll.

“Ry’n ni’n deall y gall [Sam] Clucas chwarae yn y canol ond mae gallu Clucas yn fwy ar yr ochrau, fel y gwelsoch chi yn y gêm ddiwethaf.

“Pe baen ni’n credu mai chwaraewr yng nghanol y cae yw Clucas, yna fydden ni ddim yn dod ag Andy i mewn.

“Ond oherwydd ein bod ni’n credu y gall Clucas chwarae’n fwy llydan ac y gall Carroll chwarae’n fwy llydan er mai chwaraewr yng nghanol y cae yw e, ry’n ni’n do dag [Andy King] i mewn i gynnig mwy o opsiynau yn y canol.

“Dw i ddim yn dweud ei fod e’n well [na nhw] ond mae o leia’r un safon ag sydd gennym yng nghanol y cae, ond â medrau gwahanol.”

Cymry’r gorffennol

Mae’n debygol mai Andy King fydd y Cymro cyntaf i chwarae’n rheolaidd i Abertawe ers i Neil Taylor adael am Aston Villa union flwyddyn yn ôl – er bod y cefnwr de Connor Roberts yn cael ei ystyried yn rhan o’r brif garfan erbyn hyn.

Yr unig Gymro arall yn y brif garfan ers ymadawiad Neil Taylor yw Daniel James, oedd ymhlith yr eilyddion ar gyfer gêm yn Stoke o dan reolaeth Bob Bradley yn niwedd 2016.

Mae Ashley Williams bellach yn Everton, Ben Davies yn Spurs, ac mae’n ymddangos bod yr Elyrch wedi colli sawl cyfle i ddenu Joe Allen yn ei ôl hefyd.

Ond adeg ymadawiad Neil Taylor, dywedodd y prif hyfforddwr ar y pryd, Paul Clement nad oedd gan gefnogwyr Abertawe achos i boeni am brinder Cymry yn y tîm ac y bydden nhw’n eu cefnogi “beth bynnag”.

Roedd Clement, bryd hynny, yn awgrymu nad oedd e’n awyddus i roi amser ar y cae i chwaraewyr ifanc wrth i’r tîm frwydro i aros yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Profiad Andy King

Ond wrth i’r tîm ddarganfod eu hunain mewn sefyllfa debyg unwaith eto eleni, troi at Gymro profiadol wnaeth Carlos Carvalhal y tro hwn, ag Andy King wedi chwarae i Gaerlŷr ers degawd.

A thrwy gyd-ddigwyddiad, mae’r Cymro’n cyrraedd y clwb ddyddiau’n unig cyn i’r Elyrch herio Caerlŷr yn y gynghrair.

Ond fydd e ddim yn cael chwarae yn eu herbyn nhw, na chwaith yng Nghwpan FA Lloegr yn erbyn Notts County nos Fawrth nesaf.

A dydy’r rheolwr ddim yn siŵr a fydd e’n siarad ag Andy King i gael cyngor ganddo ar drothwy’r gêm ddydd Sadwrn.

“Fe alwais i’r chwaraewyr i gyd i mewn i siarad â nhw ac yna fe wnaethon nhw ymarfer.

“Dw i ddim yn cael llawer o gyfle i siarad â nhw, ac eithrio am y prif syniadau. Maen nhw’n gwybod beth sy’n rhaid iddyn nhw ei wneud.

“Roedd Andy wedi ymarfer yn dda. Roedd e fel pe bai e wedi bod yma’n chwarae ers dechrau’r tymor.

“Dw i ddim yn siŵr a fydda i’n siarad â fe [cyn dydd Sadwrn]. Efallai, ond credwch chi fi, dydy e ddim yn bwysig [gwneud hynny].”